Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod yn rhaid i ailstrwythuro arfaethedig llywodraeth leol fod yn 'gynaliadwy a pharhaus' os bydd yn wirioneddol effeithiol yn yr hirdymor.
Er bod y Bil Llywodraeth Leol yn ganlyniad proses helaeth a oedd yn cynnwys ymgysylltu â'r cyhoedd ac ymgynghori â hwy, mae'r Pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ymgysylltu parhaus â'r cyhoedd fel rhan o'r rhaglen ailstrwythuro, a bod pob cyfle'n cael ei ddarparu i ymgynghori'n ystyrlon â chymunedau cyn y caiff y cynigion eu fformiwleiddio.
Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol:
"Rydym yn ymwybodol y bydd yr ailstrwythuro arfaethedig y trydydd tro i hyn ddigwydd o fewn cyfnod o lai na hanner can mlynedd.
"Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysicach byth sicrhau bod canlyniad y broses yn darparu strwythur cynaliadwy a pharhaus. Gallai unrhyw beth llai olygu bod angen rhagor o ddiwygio strwythurol yn rhy fuan.
"Rydym yn bryderus y gallai'r amser prin sydd ar gael ar gyfer diwygio, i gyrraedd y targed o ran amserlen Llywodraeth Cymru, a'r angen am gyfaddawd gwleidyddol er mwyn gwneud cynnydd, arwain at setliad nad yw mor gadarn ag y gallai fod, o bosibl.
"Rydym am bwysleisio'r pwynt mai'r brif ystyriaeth ddylai fod yn sail i ddiwygio strwythurol yw'r angen i greu strwythur cynaliadwy sy'n addas i'r diben ac sy'n gallu cyflawni dyheadau ehangach y Llywodraeth ar gyfer dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru."
Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru): Cyfnod 1, PDF (746KB)