Mae'n rhaid ôl-osod cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru er mwyn cyrraedd safonau di-garbon, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 02/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/08/2018

​Dim ond strategaeth bendant a di-ofn dros 10 mlynedd a fydd yn hybu adeiladu tai carbon isel ac yn helpu i gyrraedd targedau lleihau carbon Cymru, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Canfu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig mai Cymru sydd â'r stoc dai hynaf yn Ewrop.

Daeth i'r casgliad hefyd fod angen cynyddu graddfa a chyflymder y broses o ddarparu cartrefi sy'n effeithlon iawn o ran ynni, neu ni fydd yn cwrdd â'r her y mae'n ei wynebu.

  • Pwyllgor yn galw am strategaeth ddeng mlynedd ar gyfer tai carbon isel

  • Adeiladu pob cartref newydd i safonau di-garbon

  • Angen gweithredu pendant a di-ofn yn yr hirdymor i gyrraedd safonau lleihau carbon erbyn 2050

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon gan 80 y cant erbyn 2050, ond canfu'r Pwyllgor nad yw'n debygol iawn y caiff y targed hwn ei fodloni.

Daeth Aelodau Cynulliad i'r casgliad mai gwneud tai yng Nghymru yn fwy effeithlon o ran ynni fydd un o'r prif ffyrdd o gyflawni hyn.

Yn ogystal ag ôl-osod y stoc dai bresennol a sicrhau bod cartrefi newydd yn cyrraedd safonau di-garbon, dylai'r strategaeth carbon isel hefyd gynnwys:

  • System gynllunio ac adeiladu ategol gydag effeithlonrwydd ynni a charbon isel wrth eu gwraidd, a chyda chefnogaeth cyfundrefnau arolygu annibynnol, trylwyr;          

  • Cymhellion ariannol i annog prynwyr a pherchnogion i brynu tai carbon isel a buddsoddi mewn mesurau ôl-osod;         

  • Ymyriadau cyllido sy'n gwneud y mwyaf o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn tai carbon isel; a       

  • Gweithlu wedi'i hyfforddi'n llawn, yn barod i adeiladu a gwella cartrefi gan ddefnyddio'r technolegau diweddaraf.    

"Mae llawer o resymau pam y dylem wella effeithlonrwydd ynni ein stoc dai. Y pwysicaf yw'r angen i gyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol i ddileu tlodi tanwydd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr," meddai Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

"Mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau gan 40 y cant erbyn 2018 ac 80 y cant erbyn 2050.

"Mae angen atebion heriol ar dargedau heriol. Bydd lleihau'r ynni a ddefnyddiwn yn ein cartrefi yn cyflymu'r cynnydd tuag at y nodau hyn yn sylweddol.

"Bydd cyflawni'r targedau yn golygu cael uchelgais fawr a rhaid iddynt gwmpasu holl ddulliau polisi Cymru.

"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth ddeng mlynedd ar gyfer tai carbon isel, gan gynnwys cerrig milltir a thargedau er mwyn sbarduno'r gwaith o ddatblygu tai nawr ac yn y dyfodol."

Bydd adroddiad y Pwyllgor nawr yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru.