“Mae perygl y gallwn ni golli ein diwydiant cerddoriaeth fyw ar gyfer y genhedlaeth nesaf.” Bethan Sayed AC

Cyhoeddwyd 23/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/01/2020

Yn dilyn y newyddion yr wythnos hon y gallai lleoliad cerddoriaeth fyw arall gau yng Nghaerdydd, mae Bethan Sayed AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol wedi galw am fwy o weithredu er mwyn mynd i'r afael â'r broblem ac wedi mynegi pryder am yr effaith ar y diwydiant yng Nghymru. 

Daw sylwadau Bethan Sayed ar ôl y newyddion bod yr holl staff ym mar 10 Feet Tall yng Nghaerdydd wedi ymddiswyddo, gan ddweud bod y cyfarwyddwyr wedi penderfynu nad ydynt am gynnal nosweithiau cerddoriaeth fyw mwyach ac y bydd y lleoliad cerddoriaeth Undertone ar yr islawr yn cau yn llwyr. Mae hyn yn ergyd arall i'r sin gerddoriaeth fyw yn y brifddinas, ar ôl i ddau leoliad poblogaidd arall Gwdihŵ a Buffalo gau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r Pwyllgor wrthi'n cynnal ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ac yn clywed tystiolaeth gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, rheolwyr lleoliadau ac artistiaid am yr heriau sy'n eu hwynebu.

Dywedodd Bethan Sayed AC:

"Mae colli llefydd sy'n cynnal cerddoriaeth fyw yng Nghymru yn peri pryder mawr. Er mwyn i'r diwydiant ffynnu ac i artistiaid dyfu, mae angen lleoliadau ar Gaerdydd ac mewn ardaloedd ledled Cymru. Mae ein Pwyllgor wedi clywed ystadegau brawychus gan UK Music a ddywedodd fod nifer y llefydd sy'n cynnal cerddoriaeth fyw wedi gostwng tua 35% dros y degawd diwethaf. Y rheswm pennaf pam eu bod nhw'n cau yw oherwydd pwysau ariannol cynyddol y costau gorbenion, biliau, rhent ac ardrethi busnes, neu oherwydd anghydfod ynghylch sŵn.

"Mae pobl yn cael eu hysbrydoli wrth fynd i gigs a dyna sut mae cysylltiadau'n cael eu ffurfio gydag artistiaid, gan annog pobl i greu cerddoriaeth eu hunain.

"Rydyn ni wedi clywed geiriau cynnes gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd ynglŷn â sut maen nhw'n bwriadu cefnogi'r diwydiant a lleoliadau cerddoriaeth, ond yn anffodus nid oes llawer o weithredu ar hyn o bryd. Mae llefydd fel 10 Feet Tall yn parhau i gau.  Rwy'n gobeithio y gall y Bwrdd Cerdd, sydd newydd ei ffurfio, helpu i newid hyn.

"Mae ein Pwyllgor yn gweithio'n galed i fynd at wraidd y rheswm pam bod llefydd yn cau a'r heriau sy'n wynebu busnesau ac artistiaid. Hoffwn estyn y cyfle i'r staff, landlordiaid a chyfarwyddwyr gysylltu â mi i drafod yr heriau.

"Mae cerddoriaeth yn ein gwaed ni yng Nghymru - gwlad y gân - ond os bydd hyn yn parhau mae perygl y byddwn yn colli ein diwydiant cerddoriaeth fyw ar gyfer y genhedlaeth nesaf."

Ychwanegodd Rhys Carter a Samuel Kilby o'r band Valhalla Awaits o Ferthyr:

"Rydyn ni wedi colli llawer o lefydd da am fod cymdeithas yn newid ac am fod tafarndai'n cau. Mae pobl yn mynd allan llai am fod arian yn brin.

"Does dim yn cymharu â'r cyffro o fynd i gigs, maen nhw'n llawn egni. Pan ydych chi'n ifanc mae'n gwneud i chi sylweddoli y gallech chi wneud hyn hefyd - roedden ni'n mynd i gigs ac erbyn hyn rydyn ni'n chwarae mewn band ein hunain. Mae'n eich ysbrydoli i gael band at ei gilydd a dechrau chwarae a chreu. Mae'n dod â phobl at ei gilydd ac mae'n dda i'ch iechyd meddwl gan eich bod chi'n mynd allan ac yn cwrdd â phobl - rydyn ni wedi gwneud ffrindiau am oes. Drwy fynd i gig mewn lleoliad bach, rydych yn clywed 'cerddoriaeth go iawn' - dydych chi ddim yn sefyll yng nghefn stadiwm ac ni all unrhyw dechnoleg gymryd ei le.

"Mae gwerthu cerddoriaeth fel CD neu record yn her enfawr i artistiaid ifanc. Dydi pobl ddim yn prynu eu cerddoriaeth yn HMV rhagor, mae pawb yn ffrydio ar-lein erbyn hyn. Dim ond drwy gynnal gigs a gwerthu nwyddau y mae'r rhan fwyaf o fandiau yn gwneud arian.

"Os nad ydi pobl ifanc yn cael y profiad o wylio bandiau yn fyw, yna fe fydd hi'n anodd ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o artistiaid."

Ychwanegodd Ritzy Bryan o'r band The Joy Formidable o'r Wyddgrug:

"Fe allwn ni gael robotiaid sy'n creu cerddoriaeth ond all hynny fyth gymryd lle celfyddyd wreiddiol a'r sŵn pan mae band yn dod at ei gilydd - fe fydd cerddoriaeth fyw yn bodoli am byth."

Bu Valhalla Awaits a The Joy Formidable, ynghyd a'r band Buffalo Summer, yn y Senedd ym Mae Caerdydd yr wythnos yma er mwyn cyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor i'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Gellir gwylio'r cyfarfod ar-lein yn Senedd TV