Mae problemau ariannol y GIG yng Nghymru yn parhau, yn ôl un o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 06/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae problemau ariannol y GIG yng Nghymru yn parhau, yn ôl un o Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2014

Mae cyflwr ariannol y GIG yng Nghymru yn gwella, ond nid yw’n gwbl iach eto, yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi croesawu camau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllunio ariannol mwy hyblyg, ond nid yw wedi cael ei ddarbwyllo bod y gwaith o gyflwyno’r system newydd wedi’i gynllunio’n ddigonol i sicrhau bod y system yn addas i’w diben.

Mae o’r farn y dylai byrddau iechyd gael rhagor o gymorth i ddatblygu cynlluniau ariannol, ac y dylai gwybodaeth glir fod ar gael o ran y meini prawf a ddefnyddir i’w hasesu.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn pryderu nad oedd cais am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa ariannol y GIG yng Nghymru wedi’i ateb am ddeufis, a oedd yn achosi i’r Aelodau ystyried a oedd gan Lywodraeth Cymru ddigon o reolaeth dros y sefyllfa.

Roedd dryswch hefyd ynghylch diben y cyfanswm o £200 miliwn o arian ychwanegol a ddarparwyd i fyrddau iechyd fel dau daliad ar wahân. Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd yr arian yn “daliad i achub croen” i’r byrddau iechyd, a oedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi â diffyg cyfunol o £212 miliwn, ond nododd y Pwyllgor fod y taliadau yn ystod y flwyddyn yn cynorthwyo i gadarnhau’r ffaith bod diffyg cynllunio ariannol yn y GIG yng Nghymru.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae ariannu’r GIG yng Nghymru yn parhau’n her enfawr, ac er bod ymdrechion sylweddol wedi’u gwneud gan y rhai sy’n gweithio yn y gwasanaethau iechyd yng Nghymru i wneud yr arbedion brys a oedd eu hangen i fantoli’r cyfrifon, mae angen gwneud llawer iawn mwy.

“Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â materion cyllid y maes iechyd, yn arbennig y trefniadau mwy hyblyg, oherwydd mae hon yn elfen yr ydym ni wedi gofyn amdani mewn adroddiadau blaenorol.

“Fodd bynnag, rydym yn pryderu’n fawr am y dulliau rheoli sydd ar waith i gynorthwyo byrddau iechyd i gynllunio’n fwy hyblyg, ac rydym am weld atebolrwydd llymach gan uwch reolwyr, a rhagor o dryloywder ym maes cynllunio ariannol.

“Mae’n peri pryder nad oedd cais syml am y ffigurau diweddaraf ar sefyllfa ariannol y GIG yng Nghymru wedi’i ateb am ddeufis. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiadau ariannol yn fisol ar y GIG yng Nghymru, fel ymrwymiad pellach i dryloywder ac atebolrwydd.

“Yn olaf, nid yw’r Pwyllgor o’r farn bod achub croen y byrddau iechyd, gyda swm o oddeutu £200 miliwn yn fwyaf diweddar, yn gynaliadwy. Rhaid i bobl fod yn ffyddiog bod eu gwasanaethau iechyd yn cael eu darparu’n effeithiol, o fewn y cyllidebau, a heb roi camau eithafol ar waith, fel canslo llawdriniaethau a chau wardiau er mwyn mantoli’r cyfrifon dros dro.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi ein hargymhellion ar waith.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 12 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi sail resymegol glir o ran dyraniadau arian ar gyfer adnoddau ychwanegol yn ystod y flwyddyn i gyrff y GIG. Byddai hyn yn rhoi rhagor o dryloywder ac eglurder yn y cyllidebau ac yn cynorthwyo i sicrhau y caiff adnoddau eu dyrannu’n briodol, a’u bod yn rhoi gwerth am arian;

  • Bod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o bwyslais ar ddwyn uwch reolwyr i gyfrif, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau ariannol yn dryloyw; ac

  • O gofio peryglon cynllunio ariannol dros gyfnod o dair blynedd, dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol bod:

  • Cynllun cwbl gytbwys dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer pob bwrdd iechyd, gyda gwybodaeth i’w gefnogi;

  • Cynlluniau ariannol cyfunol sy’n dangos sut y bydd cyllidebau yn dangos cydbwysedd ar draws y GIG yn gyffredinol bob blwyddyn; a

  • Cynlluniau wrth gefn manwl ar gael sy’n nodi sut y bydd byrddau iechyd yn ymateb os na wireddir arbedion o fuddsoddiadau ymlaen llaw, fel y cynlluniwyd, a/neu fod pwysau cost ychwanegol.

Adroddiad: Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt