Mae’r Cynulliad Cenedlaethol am glywed eich barn chi yn sioe Dinbych a Fflint
16 Awst 2011
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau a’i daith o ddigwyddiadau’r haf yn sioe Dinbych a Fflint ddydd Iau (18 Awst).
Bydd staff ar gael i glywed pa faterion sydd o bwys i ymwelwyr ymhlith y meysydd sydd wedi’u datganoli i’r Cynulliad.
Hefyd, cynhelir gweithdai a digwyddiadau eraill i ddysgu pobl am eu Haelodau Cynulliad newydd a dangos iddynt sut i ddylanwadu ar waith y Cynulliad.
“Mae’r bleidlais gadarnhaol yn y refferendwm ym mis Mawrth yn golygu bod mwy o benderfyniadau sy’n effeithio ar bobl Cymru yn cael eu gwneud yng Nghymru,” meddai Rosemary Butler AC, y Llywydd.
“Felly, mae’n fwy pwysig nag erioed bod y penderfyniadau hynny’n cael eu gwneud yn seiliedig ar safbwyntiau pobl Cymru.”
“Rwy’n annog unrhyw un sy’n ymweld a sioe Dinbych a Fflint i fynd i’r digwyddiadau hyn i ddysgu am sut y maent yn cael eu cynrychioli a sut y gallant gymryd rhan.”
Gallwch weld y mannau eraill y bydd bws y Cynulliad Cenedlaethol yn ymweld a hwy yma
Gallwch hefyd weld y mannau y mae’r bws wedi ymweld a hwy, pwy mae’r Cynulliad wedi bod yn siarad a hwy a beth mae’r bobl hynny wedi bod yn ei ddweud ar flog y bws.