Mae’r Senedd rithwir yn mynd yn fyw, ar ddydd Mercher 8 Ebrill

Cyhoeddwyd 03/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/04/2020

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ei ail Gyfarfod Llawn ‘rhithwir’ ddydd Mercher (8 Ebrill). 

Yn yr ail gyfarfod, bydd mwy o Aelodau’n cymryd rhan, caiff ei ddarlledu yn fyw ar Senedd.tv a bydd yn cynnwys pleidlais am y tro cyntaf. 

Y Llywydd, Elin Jones AC, fydd yn cadeirio’r cyfarfod ddydd Mercher 8 Ebrill, a bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau Cynulliad yn cyfrannu o bob rhan o Gymru gan ddefnyddio'r llwyfan fideogynadledda Zoom.

Cynhaliwyd y Cyfarfod Llawn ‘rhithwir’ cyntaf, sef y sesiwn seneddol gyntaf i gael ei chynnal trwy fideogynadledda yn y DU, ddydd Mercher 1 Ebrill. Roedd y cyfarfod yn defnyddio model y Senedd Frys, sy’n caniatáu ar gyfer 16 Aelod; roedd modd gwylio’r sesiwn lawn ar Senedd.tv ar ddiwedd y cyfarfod.

Yn y sesiwn bydd datganiadau gan Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog, a Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wrth iddynt rannu’r manylion diweddaraf ag Aelodau'r Cynulliad am yr ymateb i'r coronafeirws. Hefyd, bydd Aelodau’n cael pleidleisio mewn cyfarfod rhithwir am y tro cyntaf, yn dilyn y ddadl Cyfnod 1 ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau, sydd am ganiatáu i bobl 16 oed bleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol.

Mae'r agenda hefyd yn caniatáu i fusnes arall sy’n sensitif o ran amser gael ei drafod, yn cynnwys ystyried Cyfnod 1 Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sydd am ostwng yr oedran pleidleisi i 16 oed ar gyfer etholiadau llywodraeth leol o 2021.

Bydd 28 o aelodau yn cymryd rhan yn y cyfarfod, gan sicrhau cynrychiolaeth deg i bob grŵp plaid: gall 12 Aelod fod yn bresennol ar ran Llafur Cymru, 6 ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, 4 ar ran Plaid Cymru, a 2 ar ran Plaid Brexit. Bydd grwpiau’r pleidiau yn penderfynu ar bwy fydd yn eu cynrychioli ac mae gan Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp hawl i fod yn bresennol. Bydd y pleidleisiau yn cael eu pwysoli ac fe’u cynhelir drwy alw enw cynrychiolydd o bob plaid i fwrw pleidlais ar ran pob aelod o’r grŵp. 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Cynulliad ar doriad am wythnos yn dilyn y Pasg, a threfnwyd cynnal y cyfarfod rhithwir nesaf ar 22 Ebrill.