Mae risg y bydd Cymru yn methu targed 2030 i ddileu feirws Hepatitis C

Cyhoeddwyd 27/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/06/2019

Gallai Cymru fethu ei tharged o ddileu Hepatitis C erbyn 2030 os nad yw Lywodraeth Cymru'n cymryd camau brys, yn ôl Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol.



Fe wnaeth y pwyllgor ddarganfod fod cyfle go iawn i Gymru fod y wlad gyntaf yn y DU i ddileu Hep C yn llwyr, ar yr amod bod ymdrech ar y cyd a pharodrwydd i wneud hynny.

Mae rhwng 12,000 a 14,000 o bobl yng Nghymru ac arnynt Hep C, gyda bron i hanner y bobl sy'n mynd i'r ysbyty gyda'r feirws yn dod o blith yr 20 y cant tlotaf yn y gymdeithas.

Y brif ffordd y caiff feirws Hep C ei ledaenu yn y DU yw drwy rannu nodwyddau wrth gymryd cyffuriau. Mae'r feirws yn ymosod ar yr afu ac, os nad yw'n cael ei drin, gall arwain at fethiant yr afu neu ganser yr afu.

Nid oes brechlyn ar gyfer Hep C, ond mae meddyginiaethau newydd yn golygu y gall naw o bob 10 o bobl wella ohono os caiff ei drin yn gynnar.

O dan Gynllun Cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefyd yr Afu, sy'n cynnwys Hep C, nid yw staff penodedig a chyllid wedi cael eu cadarnhau y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth y Pwyllgor y byddai estyniad i 2021 ond does dim sicrwydd wedi hynny.

"Rydym yn cytuno â'r tystio a fu'n cyfrannu at yr ymchwiliad bod modd dileu Hepatitis C. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i greu strategaeth glir, a hynny'n ddi-oed a chyda chyllid cynaliadwy, targedau uchelgeisiol, a chynllun ar gyfer y gweithlu," meddai Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

"Fodd bynnag, mae'n siomedig nad ydym ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i gyrraedd y targed o ddileu Hepatitis C erbyn 2030, ac mae'n destun pryder mawr clywed am yr ansicrwydd ar ôl 2020/21 o ran strategaeth a chyllid, yn enwedig o ran swyddi penodol. 

"Heb weithredu ar frys i fynd i'r afael â'r materion hyn, byddwn yn colli'r cyfle i ddileu'r haint."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud pedwar argymhelliad yn ei adroddiad, sef:

  • Dylai Llywodraeth Cymru greu strategaeth ddileu genedlaethol, gynhwysfawr ar gyfer Hepatitis C. Dylai'r strategaeth honno gynnwys targedau uchelgeisiol clir, a dylai hefyd gynllunio ar gyfer y gweithlu. Dylid darparu cyllid cynaliadwy hyd nes y caiff yr haint ei ddileu;
  • Rhaid i'r strategaeth gynnwys ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi'i thargedu er mwyn cyrraedd cymunedau sy'n wynebu risg, ynghyd â darparu ar gyfer rhoi addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol;
  • Os am gyrraedd targed dileu 2030 yng Nghymru, rhaid i Lywodraeth Cymru ysgrifennu at Gyfarwyddwyr Cyllid a Phrif Weithredwyr y Byrddau Iechyd Lleol i bwysleisio bod yn rhaid ystyried y targedau triniaeth cenedlaethol ar gyfer Hepatitis C fel y targedau mwyaf sylfaenol, gyda'r nod o ragori arnynt lle bynnag y bo modd; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru wneud buddsoddiad ychwanegol er mwyn gwella'r profion am Hepatitis C mewn carchardai yng Nghymru.

Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i'w drafod.

Beth yw Hepatitis C?

1. Mae feirws Hepatitis C yn feirws a gludir yn y gwaed sy'n effeithio ar yr afu.  Os na chaiff ei drin, mae pedwar o bob pump o bobl sydd wedi'u heintio yn datblygu hepatitis C cronig, ac mae hwnnw'n gallu achosi sirosis angheuol (creithio'r afu sy'n gallu arwain at fethiant yr afu) a chanser yr afu. Caiff y feirws ei ledaenu pan fydd gwaed rhywun heintiedig yn mynd i mewn i lif gwaed rhywun arall.

2. Y brif ffordd y caiff feirws Hepatitis C ei ledaenu yn y DU yw drwy rannu nodwyddau wrth gymryd cyffuriau. Gellir lledaenu'r feirws hefyd drwy ddefnyddio nodwyddau heb eu sterileiddio wrth dyllu'r corff neu wrth gael tatŵ. Mewn achosion prin iawn, caiff ei rannu drwy gysylltiad rhywiol, neu o'r fam i'r baban cyn neu yn ystod genedigaeth.

3. Nid oes brechlyn ar gyfer feirws Hepatitis C. Ystyrir bod meddyginiaethau newydd wedi 'chwyldroi' triniaeth hepatitis C fel y gall tua 9 o bob 10 o bobl, erbyn hyn, wella ohono os caiff ei drin yn gynnar. Mae'r triniaethau tabledi newydd yn fwy effeithiol ac yn peri llawer llai o sgileffeithiau, ac mae'r driniaeth yn para 8 i 12 wythnos. Hyd yn oed os na fydd y driniaeth yn cael gwared ar y feirws, gall arafu'r llid a'r niwed a achosir i'r afu.


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Hepatitis C: Cynnydd tuag at ei ddileu yng Nghymru (PDF, 600 KB)