Mae unigolion â salwch cronig yn cael eu siomi gan wasanaethau cymunedol tameidiog ac anghyson
Canfu adroddiad gan Bwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw gwasanaethau iechyd yn bodloni anghenion cleifion sydd â salwch cronig.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gwario £15 miliwn ar geisio newid y pwyslais o drin cleifion gyda chyflyrau cronig mewn ysbytai i ddarparu mwy o wasanaethau yn y gymuned.
Ond canfu aelodau’r pwyllgor y bu cynnydd siomedig o ran ail-gydbwyso gofal.
“O ganlyniad, mae dibyniaeth barhaus ar y sector ysbytai acíwt i reoli cyflyrau cronig,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Jonathan Morgan AC.
“Mae un o bob chwe achos brys a dderbynnir ar gyfer claf sydd â chyflwr cronig.
“Roedd yn glir i ni fod dealltwriaeth wael o’r ffactorau sydd wrth wraidd derbyn cleifion i ysbytai a bod gwasanaethau cymunedol, y bwriedir iddynt leihau'r ddibyniaeth ar ysbytai acíwt, yn dameidiog gyda bylchau ac anghysonderau o ran y ddarpariaeth.
“Caiff gwasanaethau eu cydgysylltu’n wael yn aml ac ni ddefnyddir llawer o’r adnoddau yn effeithiol.”
Prif ganfyddiadau’r pwyllgor yw :
nid yw gwasanaethau wedi cael eu cyflunio na’u cydgysylltu’n effeithiol i fodloni anghenion cleifion sydd â chyflyrau cronig.
mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi buddsoddi mewn ystod eang o fesurau i sicrhau newid, ond mae’n rhy gynnar i asesu eu heffaith.
mae heriau sylweddol yn bodoli o hyd er mwyn troi’r fantol o ran y gwasanaethau ar gyfer pobl sydd â chyflyrau cronig.
Problem arall a amlygwyd gan y pwyllgor oedd bod diffyg gwybodaeth a chyfathrebu gwael gyda chleifion yn chwarae rhan ganolog.
Roedd ymwybyddiaeth wael iawn ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynglyn â’r gwasanaethau cymunedol a gwirfoddol sydd ar gael i gleifion.
O ganlyniad, mae’r pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru:
ddarparu adroddiad diweddaru erbyn diwedd mis Mehefin 2009, yn nodi canfyddiadau adolygiad gwybodaeth y gwasanaethau cymunedol a’r cynnydd a wnaed o ran sefydlu gwasanaeth clinigol a dangosyddion ariannol.
sefydlu system i ledaenu dysg o’r safleoedd arddangos ynghylch yr hyn sy’n gweithio, fel y gall gyrff y GIG gael budd ymhell cyn y digwyddiad i rannu dysg a gynlluniwyd yn 2010.
dangos bod trefniadau monitro cadarn ar gael i ddilyn hynt effaith cyllid trosiannol.
sicrhau bod cyfarwyddwyr trosiannol yn adolygu’r cynlluniau lleol ar gyfer gweithredu’r fframwaith cyflyrau cronig ar frys.
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Jonathan Morgan, yn lansio adroddiad mewn Clinig Diabetes yng Nghwmbrân.
Jonathan Morgan gyda Siân Bodman a David Millar.