Mandy Jones wedi ei hethol yn Aelod Cynulliad ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd 28/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/01/2018

Etholwyd Mandy Jones yn Aelod Cynulliad ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru yn dilyn ymddiswyddiad Nathan Gill.

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, wedi cael ei hysbysu gan Swyddog Canlyniadau Rhanbarth Gogledd Cymru.

Pan ddaw sedd ranbarthol yn wag yn y Cynulliad, mae’r Llywydd yn hysbysu Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol y rhanbarth dan sylw.

Lle daeth y sedd yn wag o achos ymddiswyddiad Aelod y cafodd ei ethol o restr  ymgeiswyr plaid wleidyddol, mae'n ofynnol i'r Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol gysylltu â'r ymgeisydd nesaf ar y rhestr ar gyfer y blaid wleidyddol berthnasol. 

Unwaith y bydd wedi sefydlu'n ffurfiol y gall y person wasanaethu a'i fod yn barod i wneud hynny, bydd y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol yn rhoi gwybod i'r Llywydd beth yw enw'r person. 

Pan fydd y Llywydd yn cael gwybod yr enw, bydd y person hwnnw yn dod yn Aelod Cynulliad. Fodd bynnag, ni all wneud gwaith Aelod Cynulliad hyd nes y bydd wedi tyngu llw.

Gwnaeth y Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol roi gwybod i’r Llywydd ar 27 Rhagfyr 2017 bod Mandy Jones yn fodlon i wasanaethu.  Felly, cafodd ei hethol fel Aelod y Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru ar y diwrnod hwnnw.  

Mae’r Cynulliad yn gwneud trefniadau er mwyn i Mandy Jones dyngu’r llw.

 ​