Merlen Shetland miniatur 33 modfedd mewn taldra yn dod i’r Senedd i godi ymwybyddiaeth o ddeiseb yn erbyn esgeuluso ceffylau a merlod

Cyhoeddwyd 12/10/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Merlen Shetland miniatur 33 modfedd mewn taldra yn dod i’r Senedd i godi ymwybyddiaeth o ddeiseb yn erbyn esgeuluso ceffylau a merlod

12 Hydref 2011

Bydd ebol Shetland miniatur yn dod i’r Senedd heddiw (12 Hydref) yn sgil cyflwyno deiseb sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i atal yr arfer o esgeuluso a chefnu ar geffylau drwy orfodi’r ddeddfwriaeth ar ficrosglodion mewn modd mwy effeithiol.

Lluniwyd y ddeiseb, sydd â mwy na 2,000 o lofnodion arni, gan y Gymdeithas er Lles Ceffylau a Merlod, sy’n pryderu bod gormod o geffylau sydd wedi’u gadael a’u hesgeuluso neu sydd wedi’u hanafu na ellir eu cysylltu â pherchennog oherwydd nad oes ganddynt ficrosglodyn.

Mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i bob ebol a aned ar ôl 2009 gael microsglodyn wedi’i osod, ac mae’r deisebwyr am weld y gyfraith yn cael ei gorfodi mewn modd cyson.

Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i gynrychiolwyr o Bwyllgor Deisebau trawsbleidiol y Cynulliad am 12.00.

Ceir rhagor o wybodaeth am y ddeiseb yma.