Mesur Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 – Beth sy’n digwydd nesaf?

Cyhoeddwyd 23/07/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mesur Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 – Beth sy’n digwydd nesaf?

23 Gorffennaf 2010

Y Mesur Taliadau yw’r Mesur cyntaf i gael ei gynnig gan Gomisiwn y Cynulliad, ac erbyn hyn mae’r Mesur wedi cael cymeradwyaeth Frenhinol gan Ei Mawrhydi y Frenhines.

Mae’r Mesur yn dirwyn i ben yr arfer o Aelodau’r Cynulliad yn pennu eu cyflogau a’u treuliau eu hunain, trwy sefydlu Bwrdd Taliadau Annibynnol i bennu’r amodau hyn yn eu lle.

Bydd y Bwrdd hwn, a fydd yn cynnwys hyd at bum aelod, yn cael ei benodi yn ystod yr haf, ac mae canllawiau ar gael i sicrhau amhleidioldeb a thryloywder.

Ni all Aelod Cynulliad cyfredol nac ymgeisydd sy’n sefyll mewn etholiad y Cynulliad, er enghraifft, wneud cais.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad, sydd wedi arwain y Mesur ar ei daith drwy’r Cynulliad: “Dyma garreg filltir bwysig arall i sicrhau Cynulliad Cenedlaethol tryloyw ac atebol i bobl Cymru.


“Rydym wedi bod ar flaen y gad o ran cyflogau a threuliau gwleidyddion, ac mae pasio’r Mesur Taliadau yn enghraifft arall o’n hymrwymiad i’r agwedd arloesol honno.

“Bydd y Bwrdd Taliadau Annibynnol yn gyfrifol am sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad yn cael yr adnoddau angenrheidiol i gyflawni eu gwaith hanfodol o gynrychioli pobl Cymru, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a deddfu ar ran Cymru, a hynny mewn modd teg.

“Ar yr un pryd, wrth gael gwared ar ddylanwad Aelodau’r Cynulliad wrth bennu eu cyflogau a’u lwfansau, bydd y Bwrdd yn helpu i feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd yn uniondeb ein system ddemocrataidd.”

Disgwylir sefydlu’r Bwrdd annibynnol erbyn yr hydref, a bydd yn dyfarnu ar gyflogau Aelodau’r Cynulliad unwaith yn ystod tymor pob Cynulliad, sef pob pedair blynedd. Fodd bynnag, gall y Bwrdd hefyd bennu lwfansau’n amlach, pe bai angen.

Cafodd panel annibynnol ei greu gan Gomisiwn y Cynulliad ym mis Awst 2008 er mwyn ystyried y system o gymorth ariannol i Aelodau’r Cynulliad.

Sefydlu’r Bwrdd Taliadau oedd un o’r 108 o argymhellion a wnaethpwyd gan y panel ym mis Gorffennaf 2009 er mwyn gwella’r system o gymorth ariannol i Aelodau.