Methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau bioamrywiaeth yn annerbyniol – yn ôl adroddiad pwyllgor

Cyhoeddwyd 31/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Methiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd targedau bioamrywiaeth yn annerbyniol – yn ôl adroddiad pwyllgor

31 Ionawr 2011

Mae adroddiad newydd yn honni bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gymryd cyfrifoldeb dros gyflawni targedau bioamrywiaeth.

Canfu Pwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru na chafodd targedau rhyngwladol a Chymreig ar atal colli bioamrywiaeth eu dilyn gan ewyllys wleidyddol gref.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi llunio strategaethau uchelgeisiol iawn, mae’r dystiolaeth a gafwyd gan y grwp trawsbleidiol yn awgrymu na chawsant eu cyflawni—o ganlyniad i fethiant i fabwysiadu dull o brif ffrydio sy’n cynnwys holl adrannau ac asiantaethau’r Llywodraeth, a diffyg cynllun gweithredu wedi’i ariannu’n briodol.

Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu dull mwy holistig o gyrraedd y targedau, ac mae’n nodi nifer o ffyrdd i amddiffyn ecosystemau bregus Cymru.

Dywedodd Kirsty Williams AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Canfuom nifer o resymau dros fethiant Llywodraeth Cymru i gyrraedd y targedau bioamrywiaeth.

“Yn bennaf, y prif resymau dros y methiant hwnnw yw diffyg perchnogaeth, diffyg arweiniad, a diffyg parodrwydd i flaenoriaethu bioamrywiaeth ar draws y Llywodraeth—yn y bôn, ni chafodd targedau uchelgeisiol eu dilyn gan gamau gweithredu effeithiol ac adnoddau digonol.

Gwelsom ddigon o dystiolaeth o’r gwaith cadarnhaol sy’n cael ei wneud gan fudiadau gwirfoddol ac eraill i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol.

“Ond heb gefnogaeth lawn pob rhan o Lywodraeth Cymru, ni fydd y gwaith cadarnhaol hwn byth yn ddigon i atal colli bioamrywiaeth, heb sôn am ei wrthdroi.

“Heb ymdrechu ar y cyd, drwy weithredu ar draws pob maes polisi a chynnwys yr holl sefydliadau perthnasol, rydym yn peryglu dyfodol rhai o’r ecosystemau a’r amgylcheddau gwerthfawr sy’n diffinio Cymru.

“Mae colli bioamrywiaeth yn effeithio ar bawb, ac mae iddo oblygiadau ar gyfer polisi cymdeithasol ac economaidd, yn ogystal â’r amgylchedd.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod hyn, a gweithredu ar frys os ydym am beidio â methu’r targedau eto ymhen deng mlynedd.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 19 o argymhellion i atal dirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gwblhau a chyhoeddi archwiliad o sut mae dyhead y Llywodraeth i atal colli bioamrywiaeth yn cael ei adlewyrchu yng ngwaith bob un o adrannau ac asiantaethau’r Llywodraeth ar hyn o bryd.

  • Sicrhau bod bioamrywiaeth yn elfen ganolog o bolisi datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a’i fod yn cael mwy o flaenoriaeth na’r hyn a gaiff ar hyn o bryd.

  • Dylai Llywodraeth Cymru nodi llinellau cyfrifoldeb clir i’r holl sefydliadau statudol sy’n ymwneud â’r maes hwn, er mwyn blaenoriaethu a chydgysylltu’r gweithredu ar lawr gwlad yn well, drwy’r Fframwaith Amgylchedd Naturiol.

  • Yn rhaglen ddeddfwriaeth gyntaf y Pedwerydd Cynulliad, dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu i osod dyletswydd ar sefydliadau perthnasol i gefnogi a hybu bioamrywiaeth, gan uwchraddio’r ddyletswydd i ystyried bioamrywiaeth a sefydlwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig.

DIWEDD