Miloedd yn dathlu Dydd Gwyl Dewi yn y Senedd.

Cyhoeddwyd 03/03/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Miloedd yn dathlu Dydd Gwyl Dewi yn y Senedd.

Daeth dros mil che chant o bobl i’r Senedd ddydd Sadwrn 1 Mawrth i ddathlu dydd Gwyl Dewi, a daeth 2500 arall ynghyd i gymryd rhan yng ngorymdaith Dydd Gwyl Dewi a orffennodd yn y Senedd am y tro cyntaf erioed.

Cymerodd yr ymwelwyr ran mewn ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim a oedd wedi’u trefnu i nodi gwyl nawddsant Cymru. Roedd digon o weithgareddau i ddiddanu’r teulu cyfan gan gynnwys lliwio a pheintio wynebau, arddangosfeydd coginio a sesiynau rhagflas i bobl sy’n awyddus i ddysgu Cymraeg. Cafwyd adloniant gan Gôr CF1, band drymiau dur Ysgol Fitzalan, Cher Punjab, band drymiau Sicaidd a  Bagad Penhars, band pibau o Lydaw. Roedd Dewi y Ddraig yn ffefryn pendant ymhlith yr ymwelwyr iau ac roedd o wrth ei fodd yn cymryd rhan yn y gweithdai dawns a drefnwyd gan Gwmni Dawns Werin Caerdydd .

Bu ymgyrch y Cynulliad Cenedlaethol i ddod o hyd i hoff Gymro neu Gymraes y genedl yn boblogaidd iawn. Yn ystod mis Chwefror, gofynnwyd i bawb a ymwelodd â’r Senedd i enwebu eu hoff Gymro neu Gymraes. Cyhoeddwyd rhestr fer o ddeg ar 29 Chwefror er mwyn i’r bleidlais dros “Gewri’r Cymry” ddechrau yn y Senedd ar ddydd Gwyl Dewi.   

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad: “Pleser pur oedd gweld cynifer o bobl yn mwynhau’n diwrnod cenedlaethol a chael croesawu’r orymdaith i’r Senedd am y tro cyntaf. Gobeithio y byddaf yma i groesawu’r orymdaith ac ymwelwyr eraill i’r Senedd i ddathlu’n diwrnod cenedlaethol am flynyddoedd eto.