Mwy o rwystrau i’w chwalu wrth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddathlu ei ddengmlwyddiant

Cyhoeddwyd 12/05/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mwy o rwystrau i’w chwalu wrth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddathlu ei ddengmlwyddiant

Er bod 70% ohonom yn cefnogi datganoli yn awr, mae angen annog pobl i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn wir yn mynd i wella bywydau holl bobl Cymru.

Dyna’r neges y mae’r Llywydd, Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi bod yn ei chlywed gan grwpiau lleiafrifol ledled Cymru.

Ymwelodd â grwpiau sy’n ei chael yn anodd cymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad Cenedlaethol.

Roeddent yn cynnwys pobl ifanc, grwpiau o bobl anabl, cyrff ar gyfer pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, grwpiau ar gyfer pobl lesbaidd, hoyw a deurywiol a grwpiau crefyddol.

“Nid oes gennym ddemocratiaeth os nad yw pobl yn cymryd rhan,” meddai’r Llywydd.

“Mae cyfrifoldeb ar y Cynulliad i wella bywydau pobl yng Nghymru, ond cyn y gall fod yn llwyddiant, mae’n rhaid iddo wneud mwy o ymdrech i ddenu pobl i gymryd rhan yn ei waith.

“Mae’n rhaid i’r Cynulliad gael tri phrif flaenoriaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf – cyfathrebu’r hyn a wna yn fwy effeithiol – sicrhau y rhoddir y cyfle i bobl gymryd rhan mewn llunio deddfau a chraffu ar waith y Llywodraeth – a sicrhau canlyniadau ymarferol ar gyfer holl bobl Cymru.

“Mae ein taith canfod ffeithiau wedi tynnu sylw at rai o anghenion grwpiau a gynrychiolir leiaf yng Nghymru. Maent yn dweud wrthym fod angen i ni wneud llawer mwy i gynnwys holl bobl Cymru yng ngwaith y Cynulliad.

“Nid yw’r Cynulliad yn bodoli er budd y 60 Aelod etholedig ond er budd Cymru gyfan. Dim ond os yw pobl Cymru’n teimlo y gallant ymddiried yn y Cynulliad i ddarparu ar gyfer holl bobl Cymru y gellir ennill refferendwm ar gael mwy o bwerau i’r Cynulliad yn y dyfodol.”

Daeth tri prif thema i’r amlwg yn ystod ein trafodaethau gyda’r grwpiau cynrychioliadol y bu i ni gyfarfod a nhw. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol eisoes yn mynd i’r afael â rhai ohonynt, ond mae angen trafodaeth ehangach ynghylch rhai eraill:

Rhwystr canfyddedig: Roedd pobl yn teimlo mai blaenoriaeth gwleidyddion oedd apelio at y boblogaeth gyfan er mwyn cael eu hailethol, yn hytrach na gwrando ar lais grwpiau lleiafrifol.

Rhwystr canfyddedig: Mae nifer o bobl o hyd nad ydynt yn ymwybodol sut y gellir cael y cyfle i ymgysylltu â’u Haelod Cynulliad a gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r gwahaniaeth y gall ei wneud.

Rhwystr canfyddedig: Mae’r diffyg pobl amlwg o grwpiau lleiafrifol mewn gwleidyddiaeth yn allgau cymunedau yn fwy o’r broses wleidyddol. Mae hyn, yn ogystal ag amharodrwydd i ymgysylltu â’r broses wleidyddol oherwydd profiadau gwael o ddelio â’r llywodraeth yn y gorffennol, yn golygu nad yw rhai grwpiau yn ymgysylltu â’r broses wleidyddol yng Nghymru ar y lefel fwyaf sylfaenol.

Mae’r ffaith bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ymrwymo i wella ei ymgysylltiad â’r cyhoedd yn cynnig ffyrdd newydd i’r cyhoedd gymryd rhan yn ein gwaith o graffu ynghyd â’n busnes deddfwriaethol ac i gysylltu â’u cynrychiolwyr. Mae’r enghreifftiau o’r hyn yr ydym yn ei wneud i fynd i’r afael â’r rhwystrau canfyddedig a drafodwyd yn ystod ein hymweliadau yn cynnwys:  

  • cynnal ymgynghoriadau ehangach nag erioed o’r blaen ar gyfer ymchwiliadau pwyllgorau, ee yr ymgynghoriad ehangaf erioed ar ddeddfwriaeth ynglyn â’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch yr iaith Gymraeg a lansio ein galwad cyntaf erioed am dystiolaeth fideo ar gyfer ein hymchwiliad cynaliadwyedd i lifogydd a gaiff ei lansio yn ddiweddarach y mis hwn, i sicrhau fod y broses ymgynghori mor hawdd i’w dilyn ac mor hygyrch â phosibl;

  • Mae ein system ddeisebau yn ddull arbennig o lwyddiannus y gall y cyhoedd ei defnyddio i ymgysylltu ag Aelodau’r Cynulliad. Daeth mwy na 150 o ddeisebau i law ers sefydlu’r system ym mis Gorffennaf 2007, ac mae’r Cynulliad wedi delio â phob un ohonynt. Bwriedir cynnal cyfres o weithdai i hysbysu’r cyhoedd yng Nghymru ynghylch y broses hon a fydd yn cael ei lansio mewn digwyddiadau mawr yn ystod yr haf, gan gynnwys yr Eisteddfod. Mae’r Pwyllgor hefyd yn gwneud gwaith i gasglu sylwadau ynghylch i ba raddau y mae’r system ddeisebu wedi gweithio hyd yn hyn.

  • Mae gan y tîm allgymorth newydd sydd wedi ei leoli ledled rhanbarthau etholaethol Cymru gylch gorchwyl penodol yn awr i gryfhau’r berthynas a’r partneriaethau gwaith newydd ledled cymunedau Cymru a chyda chymdeithas sifil Cymru gan weithio tuag at eu cynnwys mewn democratiaeth yng Nghymru;

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gynllun mentora i annog mwy o ymgeiswyr o grwpiau lleiafrifol i gymryd rhan. Bydd Aelodau’r Cynulliad a chynghorwyr yn mentora’r unigolion sy’n cymryd rhan am ddeng niwrnod o leiaf dros gyfnod o chwe mis, gan roi’r cyfle iddynt gael ystod o brofiadau. Bwriedir lansio’r cynllun yn yr hydref.