Mynd i’r afael â’r diffyg democrataidd - Y Llywydd i amlinellu camau gweithredu’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 07/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mynd i’r afael â’r diffyg democrataidd - Y Llywydd i amlinellu camau gweithredu’r Cynulliad

7 Tachwedd 2013

Bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amlinellu’r rôl y bydd y Cynulliad yn ei chwarae o ran mynd i’r afael â’r "diffyg democrataidd" yng Nghymru.

"Diffyg democrataidd" yw’r term a ddefnyddiodd Mrs Butler am y broblem lle mae llawer o sefydliadau’r cyfryngau yng Nghymru a’r DU yn methu â rhoi sylw dyledus i waith y Cynulliad, a’r gwahaniaethau mewn polisi cyhoeddus yng Nghymru o ganlyniad i ddatganoli.

Mewn araith yn narlith Gymraeg flynyddol y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn y Pierhead ar 7 Tachwedd, bydd yn amlinellu rhai o’r camau y bydd y Cynulliad yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater.

"Credaf ei fod yn un o’r problemau mwyaf dwys sy’n wynebu’r broses ddatganoli yng Nghymru," meddai.

"Yr hyn yr wyf yn ei olygu drwy ‘ddiffyg democrataidd' yw pwy sy’n cyfleu, neu efallai’n bwysicach, pwy fydd yn cyfleu gwaith y Cynulliad Cenedlaethol i bobl Cymru yn y dyfodol, ac yn ymgymryd â’r rôl hanfodol honno o ddwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yma ym Mae Caerdydd i gyfrif?

"Mae gennym Gyfryngau darlledu a phrint yn y DU sy’n methu ag adrodd am y gwahaniaethau enfawr mewn agwedd tuag at bolisi cyhoeddus mewn meysydd datganoledig fel iechyd ac addysg.

"Mae’n golygu bod eu cynulleidfaoedd Cymreig sylweddol yn aml yn cael gwybodaeth nad yw’n berthnasol iddynt."

Yn dilyn cyfres o sesiynau gyda newyddiadurwyr o’r cyfryngau traddodiadol a digidol o Gymru a’r DU, a gynhaliwyd yn y Pierhead hefyd yn gynharach eleni, mae’r Cynulliad wedi nodi nifer o gamau gweithredu.

"Yn ystod misoedd yr haf rydym wedi bod yn edrych ar rai o’r syniadau diddorol hynny ac yn ffurfio ymateb, gan gynnwys rhai cynigion arloesol," ychwanegodd y Llywydd.

"Mae llawer ohono’n canolbwyntio ar ba gymorth y gellir ei roi i’r llwyfannau digidol sy’n ymddangos o ran cynnwys gwaith y Cynulliad."

Mae’r Cynulliad yn bwriadu:

  • gweithio gyda’r cyfryngau digidol a hyperleol, a chyrff sy’n bartneriaid, i greu canolbwynt newyddiaduraeth yn y Senedd, a allai gynnwys y sianeli digidol newydd hyn;

  • ei gwneud yn haws i adrodd am waith y Cynulliad drwy ddarparu gwell cyfleusterau cyfathrebu ar ystâd y Cynulliad;

  • gwneud data’r Cynulliad yn fwy agored a hygyrch;

  • sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad yn hollol hyddysg ynglyn â’r ffordd orau i ddefnyddio’r offer cyfathrebu sydd bellach ar gael yn yr oes ddigidol hon;

  • gweithio’n agosach â sefydliadau’r cyfryngau i fynd â’r Cynulliad allan i’r cymunedau y mae’n eu cynrychioli gyda chyfres o ddyddiau’r wasg y Cynulliad yn y rhanbarthau; a

  • gweithio hefyd gyda’r sefydliadau hynny i ddarparu sesiynau anwytho ar gyfer newyddiadurwyr dan hyfforddiant er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o waith y sefydliad.

Bydd y Llywydd yn amlinellu’r cynigion yn ystod ei haraith yn narlith y Gymdeithas Deledu Frenhinol a gynhelir yn y Pierhead ac sy’n cychwyn am 18.00.

Bydd yn cyflwyno’r siaradwr gwadd sef Guto Harri, cyn Brif Ohebydd Gwleidyddol y BBC, a fydd yn rhoi anerchiad yn edrych ar y sylw y mae cyfryngau’r DU yn ei roi i’r Cynulliad dan y teitl "Wales - Not on their Radar".

"Mae’n rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol chwarae ei ran, ac fe wnaiff hynny," meddai’r Llywydd.

"Edrychaf ymlaen at weithio’n agos â phawb sydd â diddordeb mewn sicrhau lluosogrwydd y sylw gan y cyfryngau a’r gwaith o graffu ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, er mwyn troi ein trafodaethau am y Diffyg Democrataidd yn weithredoedd cadarnhaol."