Mynediad i ddwr mewndirol – y sesiwn dystiolaeth gyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru
A ddylai fod gan bobl hawl i gael mynediad yn ddiofyn i’n hafonydd, ein llynnoedd a’n cronfeydd dwr?
Dyna’r cwestiwn y bydd aelodau o Bwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei ofyn i dystion wrth iddynt ddechrau ar eu hymchwiliad i fynediad i ddwr mewndirol yn Sioe Frenhinol Cymru ar 21 Gorffennaf.
Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan yr Athro Andrew Church o Brifysgol Brighton a Dr John Powell o Brifysgol Swydd Gaerloyw, sydd ill dau wedi llunio adroddiadau ar y pwnc i Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.
“Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gyfeiriodd y mater hwn tuag atom,” meddai Mick Bates AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd.
“Daeth y mater i’r amlwg yn wreiddiol ar ffurf deiseb gan Gymdeithas Canwio Cymru, felly mae’n dangos bod y Cynulliad Cenedlaethol yn edrych o ddifrif ar y materion sy’n cael eu codi gan bleidleiswyr Cymru.
“Deallwn fod safbwyntiau cryf gan y rheini ar y ddwy ochr i’r ddadl hon, a dyna pam ein bod yn cynnal ymchwiliad eang i’r mater.”
Cynhelir y cyfarfod yn gyhoeddus ar stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar faes Sioe Amaethyddol Cymru yn Llanelwedd, a hynny rhwng 10.30 a hanner dydd.
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd a fydd yn Sioe Frenhinol Cymru fod yn bresennol yn y sesiwn, ond rhaid iddynt roi gwybod ymlaen llaw drwy ffonio llinell archebu’r Cynulliad ar 0845 010 5500 gan fod y llefydd sydd ar gael yn brin.
Hon fydd y sesiwn dystiolaeth gyntaf mewn ymchwiliad a fydd yn para tan dymor yr hydref.
Bydd copïau o’r llythyr ymgynghori ar gael yn y cyfarfod ac ar dudalen y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar y we: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-third1/bus-committees-third-sc-home.htm