New evidence to feed into tanning salons inquiry

Cyhoeddwyd 29/07/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Tystiolaeth newydd i gael ei bwydo i mewn i’r ymchwiliad i salonau lliw haul

Bydd tystiolaeth newydd sy’n awgrymu cysylltiad uniongyrchol rhwng y defnydd o welyau haul a chanser yn llunio rhan o’r dystiolaeth a gaiff ei hystyried gan ymchwiliad sy’n cael ei gynnal gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Llun o salonau lliw haul

Mae’r Asiantaeth Ryngwladol ar Ymchwil i Ganser (IARC) wedi datgan o’r blaen ei bod yn debygol bod gwelyau haul yn garsinogenaidd i bobl, ond mae wedi cryfhau ei barn erbyn hyn drwy ddatgan bod cysylltiad pendant.   

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol: “Mae’r adroddiad newydd hwn gan IARC yn werthfawr ac mae ynddo dystiolaeth amserol a fydd yn helpu ymchwiliad y Pwyllgor. Mae’n gorff sy’n cael ei barchu ac sy’n rhan o Sefydliad Iechyd y Byd. Pan fydd yn cyhoeddi canfyddiadau sydd mor ddifrifol â’r rhain, dylai pawb gymryd sylw.”

Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor yn gwahodd pobl a sefydliadau i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig a fydd yn cael ei ystyried fel rhan o’r ymchwiliad. Y dyddiad terfyn ar gyfer anfon tystiolaeth o’r fath yw 21 Awst, a disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi tuag at ddiwedd tymor yr hydref yn y Cynulliad.

Dywedodd Mr Millar: “Mae’n bwysig ein bod yn cael cymaint o sylwadau ac ymchwil â phosibl ar y mater. Rydym eisoes wedi clywed tystiolaeth gan fam merch 14 oed a ddioddefodd losgiadau i 70 y cant o’i chorff wedi iddi ddefnyddio gwely haul. Y mae hi, fel fy holl gyd-aelodau, yn rhannu’r pryder ynglyn â beth yw effeithiau hirdymor ar iechyd o ddefnyddio gwely haul yn rheolaidd.”

Mae Cancer Research UK hefyd wedi cyflwyno tystiolaeth ar lafar i’r Pwyllgor ac wedi argymell y dylid gwahardd pobl o dan 18 oed rhag defnyddio’r salonau lliw haul.

Rhaid bod yn 16 oed i fod yn aelod o’r Gymdeithas Gwelyau Haul ar hyn o bryd. Wrth roi tystiolaeth, dywedodd y gymdeithas nad yw wedi ei hargyhoeddi ynglyn â pha mor effeithiol fyddai codi’r oedran hwnnw.  

Fodd bynnag, roedd yn cefnogi gwahardd salonau a weithredir drwy ddefnyddio arian parod ac sydd heb weithwyr yn gofalu amdanynt.

Lansiodd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ei ymchwiliad ar 9 Gorffennaf 2009.

Dyma rai o’r materion sy’n cael eu trafod gan y Pwyllgor:

Y defnydd o welyau haul gan blant
Y gorddefnydd o welyau haul

Goruchwylio defnyddwyr gwelyau haul
Y defnydd o beiriannau a weithredir drwy ddefnyddio arian parod
Monitro a chyfyngu ar sesiynau gwelyau haul
Darparu gwybodaeth am y perygl posibl i iechyd mewn canolfannau gwelyau haul.
Archwilio canolfannau