Newid byd wrth weithio o adref – Pwyllgor Senedd yn ymchwilio i effaith gweithio o bell

Cyhoeddwyd 07/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/12/2020

Mae ymchwil wedi dangos bod dros hanner y gweithwyr yng Nghymru wedi gweithio gartref am rywfaint o’r amser rhwng Ebrill a Mehefin 2020 oherwydd y pandemig COVID-19 ac mae llawer yn dal i wneud hynny. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar bron bob agwedd ar fywydau pobl, ac mae un o Bwyllgorau’r Senedd eisiau dysgu mwy.

Yn dilyn y newidiadau hyn mewn ymddygiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn awyddus i ‘gydweithio â sefydliadau er mwyn cefnogi newid hirdymor a fydd yn annog rhagor o bobl i weithio o bell’ a’i bod yn ‘edrych ar sut y gellid creu rhwydwaith o ganolfannau gweithio o bell o fewn y gymuned, o fewn pellter cerdded neu feicio i gartrefi nifer o bobl mewn cymunedau ledled Cymru.’ Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i ‘weld 30% o weithwyr Cymru yn gweithio o gartref neu yn agos at y cartref’.

Heddiw mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd yn lansio ymchwiliad i edrych ar effeithiau sylweddol mwy o bobl yn gweithio o adref neu o bell.

Mae’r Pwyllgor am ystyried y materion yn sgil gweithio o bell ac am edrych ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer newid tymor hir a’i chynigion ar gyfer canolfannau gweithio o bell.

Mae’r Pwyllgor am edrych ar effeithiau gweithio o bell ar:

  • Yr economi a busnes
  • Canol trefi a dinasoedd
  • Materion sy’n effeithio ar y gweithlu, a sgiliau
  • Iechyd (corfforol a meddwl) a llesiant
  • Anghydraddoldebau rhwng gwahanol grwpiau a gwahanol rannau o Gymru (gan gynnwys yr ardaloedd hynny sydd â chysylltedd gwael)
  • Yr amgylchedd
  • Y rhwydwaith trafnidiaeth a’r seilwaith

Bydd y Pwyllgor yn clywed gan gyflogwyr, gweithwyr ac arbenigwyr o fewn Cymru a’r Deyrnas Unedig ond bydd hefyd yn edrych ar enghreifftiau rhyngwladol lle mae uchelgeisiau tebyg wedi’u gosod.

Yr effaith ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r Pwyllgor hefyd yn edrych ar effaith gweithio o bell ar ein rhwydwaith trafnidiaeth oherwydd bu gostyngiad mawr yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru o gymharu â chyn y pandemig.

Ar ei bwynt isaf yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, roedd y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn llai nag 20% o’r lefel ar 31 Ionawr 2020, ac roedd y defnydd o geir yn llai na 40% o’r lefel ar 31 Ionawr 2020.  Dywed Llywodraeth Cymru “Erbyn 3 Gorffennaf 2020 roedd traffig ceir wedi cyrraedd 80% o lefelau cyn y cyfyngiadau symud tra bod defnydd trafnidiaeth gyhoeddus ond wedi adfer 30%” a bod nifer yr ymwelwyr ar reilffyrdd yng Nghymru ym mis Gorffennaf tua 12-15% o’r lefelau cyn y pandemig.

“Mae gweithio o bell wedi cael effaith ddramatig ar y ffordd y mae llawer yn gweithio yng Nghymru, gydag effeithiau canlyniadol clir. Mae hefyd wedi rhannu barn.

“Mae wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gyda llai o bobl yn gyrru i’r gwaith, gan leihau tagfeydd ar y ffyrdd a gwella ansawdd aer.

“Fodd bynnag, mae wedi bod yn her go iawn i lawer a allai deimlo’n ynysig ac yn ei chael hi’n anodd gweithio gartref am amryw o resymau.

“Mae’r symudiad i weithio gartref hefyd wedi effeithio ar ystod o fusnesau. Mae’r rhai a oedd yn arfer dibynnu ar brysurdeb amser cinio neu ar ôl gwaith ger swyddfeydd yn ei chael hi’n anodd ond rwyf hefyd wedi clywed bod caffis a siopau coffi i ffwrdd o ganol trefi a dinasoedd wedi dod o hyd i gwsmeriaid newydd wrth i bobl fynd atynt wrth gael seibiant o’r gwaith.

“Cafwyd effaith ddifrifol hefyd ar drafnidiaeth gyhoeddus gyda nifer y teithwyr ar fysiau a threnau yn ffracsiwn bychan o’r amser hwn y llynedd, sy’n golygu bod yn rhaid i’r llywodraeth roi cymhorthdal sylweddol i’r rhwydwaith.

“Rydym yn awyddus i glywed gan bobl ledled Cymru y mae gweithio o bell wedi effeithio arnyn nhw ac i ddylanwadu ar bolisi Llywodraeth Cymru wrth iddo ddatblygu.” - Russell George AS, cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.