Newid enw i egluro gwaith un o bwyllgorau’r Cynulliad
4 Tachwedd 2009
Bydd un o Bwyllgorau’r Cynulliad yn cael ei ailenwi ar ôl i Aelodau bleidleisio o blaid y newid y prynhawn yma (4 Tachwedd).
Teimlai’r Panel Annibynnol, a sefydlwyd i ymchwilio i’r system o roi cymorth ariannol i Aelodau ac a gyflwynodd ei adroddiad ym mis Gorffennaf, fod enw presennol y Pwyllgor Archwilio yn peri dryswch.
Argymhellodd y Panel y byddai ffocws y Pwyllgor Cyllid presennol yn cael ei adlewyrchu’n well drwy ei alw’n Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
“Mae hyn yn adlewyrchu’r gwaith y mae’r pwyllgor yn ei wneud yn well,” dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio.
“Mae newid yr enw o’r Pwyllgor Cyllid i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn adlewyrchu’n fwy cywir ei rôl o ddiogelu’r pwrs cyhoeddus yng Nghymru.”