Ni ddylai ffermwyr Cymru fod ar eu colled ar ôl i’r cymhorthdal gael ei ddiwygio, yn ôl pwyllgor y Cynulliad

Cyhoeddwyd 20/07/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ni ddylai ffermwyr Cymru fod ar eu colled ar ôl i’r cymhorthdal gael ei ddiwygio, yn ôl pwyllgor y Cynulliad

20 Gorffennaf 2010

Yn ôl adroddiad gan Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw diwygio polisi cymorth amaethyddol yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod ffermwyr Cymru yn colli incwm.

Penderfynodd y Pwyllgor gynnal yr ymchwiliad i asesu pa effaith allai diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) – a fydd yn cyd-ddigwydd â chyllideb newydd yr Undeb Ewropeaidd ar ôl 2013 – ei gael ar sector amaethyddol Cymru.

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i ddiogelu cyllideb PAC fel rhan o’i strategaeth drafod, er mwyn sicrhau nad yw Cymru’n cael swm llai o arian ar ôl 2013.

Mae’n argymell hefyd bod Llywodraeth Cymru’n defnyddio dylanwad ASEau Cymru ac yn ffurfio cynghreiriau â rhanbarthau eraill o’r Undeb Ewropeaidd – rhanbarthau sydd â diddordeb gyffredin mewn diwygio’r PAC – er mwyn gwneud y mwyaf o’i phwer i ddylanwadu a bargeinio.

Mae’r adroddiad yn nodi y dylai darparu incwm digonol i ffermwyr a diogelwch bwyd barhau i fod yn brif amcanion ar gyfer y PAC, ac y dylid sicrhau bod cymorth i gynhyrchu bwyd mewn ardaloedd llai ffafriol, er enghraifft ar ucheldiroedd Cymru, yn cael ei ddiogelu.

Mae hefyd yn argymell cyflwyno diogelwch amgylcheddol fel prif nod newydd, fel bod PAC yn berthnasol i’r heriau presennol ac yn diogelu ffynonellau incwm newydd i ffermwyr Cymru drwy wasanaethau amgylcheddol.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, Cadeirydd yr Is-bwyllgor: “Dangosodd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad pa mor bwysig yw PAC i’r diwydiant amaeth ac i gefn gwlad Cymru’n gyffredinol. Roedd y Pwyllgor yn teimlo bod dyletswydd arno felly i ymuno yn y ddadl am ddyfodol PAC ar ôl 2013.

“Mae cyllid gan Daliad Sengl PAC i gyfri am 90 y cant o incwm ffermydd yng Nghymru ar gyfartaledd ac felly ni ddylid tanbrisio ei werth i ffermwyr Cymru.

“Nod yr adroddiad hwn yw pennu sut y dylai Llywodraeth Cymru gynrychioli buddiannau Cymru yn ystod y broses drafod.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn fan cychwyn defnyddiol i’r ddadl yng Nghymru ar ddyfodol PAC, a bydd Llywodraeth Cymru’n gwrando ar ganfyddiadau’r Pwyllgor.”

Adroddiad