“Ni ddylai gwasanaethau plismona gael eu defnyddio yn lle gwasanaethau iechyd meddwl” - Dai Lloyd AC

Cyhoeddwyd 30/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/12/2019

Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol yn codi pryderon difrifol ynghylch y cynnydd yn nifer y bobl sy’n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan elusennau iechyd meddwl a’r heddlu bod bron pob un o heddluoedd Cymru wedi gweld cynnydd mewn achosion o’r fath a bod y sefyllfa’n amrywio ar draws ardaloedd am fod gwasanaethau iechyd meddwl yn anghyson. 



Drws tro


Clywodd aelodau’r Pwyllgor bryderon am y nifer o bobl sy’n cael eu derbyn eto i wasanaethau iechyd meddwl, dan adran 136, ar ôl cael eu rhyddhau – a bod sefydliadau iechyd meddwl yn disgrifio’r sefyllfa fel ‘drws tro’. Mae'n destun pryder i’r Pwyllgor bod mwyafrif y bobl sy’n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn cael eu rhyddhau yn dilyn asesiad am nad oes arnynt angen triniaeth iechyd meddwl ar frys. Codwyd cwestiynau ynghylch a yw’r Ddeddf yn cael ei defnyddio am nad oes gwasanaethau cymorth mwy priodol ar gael ar gyfer pobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl. 

Er mwyn helpu i osgoi pobl yn cael eu cadw dro ar ôl tro, mae’r Pwyllgor yn credu bod angen i unigolion a'u teuluoedd wybod ble i fynd am gymorth a chefnogaeth wrth i argyfwng agosáu. 
Mae'n galw am fonitro aildderbyniadau’n well a rhoi mwy o bwyslais ar ymyrraeth gynnar er mwyn osgoi pobl rhag cael eu cadw dro ar ôl tro ac i wella cynlluniau ar gyfer argyfwng. 

Plismona cadarnhaol


Er bod nifer y bobl sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl wedi cynyddu, mae'r rheini sy’n mynd i ddalfa'r heddlu wedi lleihau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r Pwyllgor wedi cael sicrwydd nad yw dalfa'r heddlu bellach yn cael ei defnyddio fel man diogel i'r rhai sy'n cael eu cadw, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. 

Roedd llawer a roddodd dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor yn dweud fod y cyswllt y mae pobl wedi’i gael â'r heddlu wrth fynd drwy argyfwng iechyd meddwl yn un cadarnhaol. Dywedodd Mind Cymru wrth y Pwyllgor fod unigolion a’u teuluoedd sydd wedi bod mewn argyfwng iechyd meddwl ac wedi galw’r heddlu wedi bod yn ddiolchgar am y cymorth a gafwyd, gan herio’r rhagdybiaeth gyffredinol bod gan bobl sy’n mynd drwy argyfwng iechyd meddwl farn negyddol am gael eu cadw gan yr heddlu. 

Ychwanegodd yr elusen ddigartrefedd, y Wallich, fod yr heddlu bob amser wedi bod o gymorth mawr ac yn helpu pobl i chwilio am atebion, ond mae'n nhw’n teimlo’n rhwystredig am y ffordd mae materion iechyd meddwl yn cael eu trin yn fwy cyffredinol. 

Mannau diogel


Er mwyn cadw at ganllawiau Cod Ymarfer Deddf Iechyd Meddwl Cymru mewn perthynas â defnyddio pwerau cadw, rhaid i wasanaethau iechyd ac awdurdodau lleol ddarparu cyfleusterau digonol ar gyfer oedolion a phobl ifanc. Yn ôl Mind Cymru, yn y mwyafrif o achosion, mae pobl sy’n cael eu cadw o dan adran 136 y Ddeddf yn cael eu dwyn i fan diogel sy’n seiliedig ar iechyd.

Er bod y Pwyllgor wedi croesawu sicrwydd bod pob Bwrdd Iechyd yn dynodi mannau diogel yn seiliedig ar iechyd, mae’n pryderu ynghylch awgrymiadau bod y ddarpariaeth yn anghyson ac yn amrywio ledled y wlad, ac nad oes gan bob aelod o staff rheng flaen, fel yr heddlu, fynediad at wasanaethau.

Cyfiawnder yng Nghymru


Nid yw plismona wedi'i ddatganoli, yn wahanol i iechyd a llywodraeth leol. Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu rhoi cyfarwyddiadau i’r heddlu i weithredu mewn ffordd benodol am nad yw'n wasanaeth sydd wedi ei ddatganoli. 

Fodd bynnag, ym mis Hydref, fe wnaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru gyflwyno’i adroddiad (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru) gan amlinellu'r broblem ynghylch materion iechyd meddwl a phlismona. 

Wrth lansio adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon heddiw, dywedodd y Cadeirydd, Dai Lloyd AC:

“Rydym yn pryderu bod mwy a mwy o bobl yn cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a bod diffyg gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned wedi arwain at ragor o bobl yn cael eu derbyn dro ar ôl tro, o dan adran 136, ar ôl cael eu rhyddhau. 

“Rydym wedi clywed peth tystiolaeth sy’n peri pryder, ond rydym hefyd wedi clywed am arferion rhagorol. Mae swyddogion rheng flaen yr heddlu yn darparu cymorth i unigolion sydd wedi bod drwy argyfwng iechyd meddwl, ond ni ddylai gwasanaethau plismona gael eu defnyddio yn lle gwasanaethau iechyd meddwl. 

“Heddiw rydym yn amlinellu nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yna ddull gweithredu mwy cyson ym maes gofal a gwasanaethau argyfwng iechyd meddwl ledled Cymru. 

“Yn ogystal â darparu gwasanaethau cyson ledled Cymru, rhaid i ni sicrhau nad yw’r rheini sydd mewn argyfwng yn mynd yn sownd mewn cylch a’u bod yn cael y driniaeth a’r gofal priodol y maent yn eu haeddu. Rhaid i ni fynd at wraidd y broblem a rhoi terfyn ar y cylchdro.”