Ni ddylid gorfodi telerau cytundeb i adael yr UE ar y gwledydd datganoledig, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 23/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/06/2017

​Ni ddylid gorfodi telerau cytundeb i adael yr UE ar y gwledydd datganoledig, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Ni ellir ond gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn partneriaeth â’r gwledydd datganoledig, ac ni ddylid gorfodi telerau unrhyw gytundeb arnynt, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi rhyddhau datganiad yn amlinellu ei bryder y gallai’r Cynulliad Cenedlaethol golli pwerau i reolaeth ganolog o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE), yn enwedig mewn meysydd polisi sydd wedi dibynnu’n helaeth ar gyfraith yr UE, fel amaethyddiaeth a’r amgylchedd.

Mae’r sail ar gyfer y pryderon hyn yn deillio’n rhannol o driniaeth Llywodraeth y DU o Ddeddf Cymru 2017. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod y ddeddfwriaeth hon yn or-gymhleth ac yn fiwrocrataidd, gan ychwanegu nad oedd yn ymdrin â llawer o’r pwyntiau a godwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor yn nodi pum egwyddor allweddol a ddylai fod yn sail i Fil y Diddymu Mawr gan Lywodraeth y DU, a fydd yn trosi holl ddeddfau perthnasol yr UE i mewn i gyfraith y DU, ac unrhyw Fil arall sy’n berthnasol i ymadawiad y DU o’r UE. Yn eu plith mae:

  • Rhaid i’r broses gyfan o adael yr UE sicrhau parch tuag at y rheol gyfreithiol bob amser.
  • Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r ddeddfwriaeth sy’n deillio o adael yr UE: (a) fod yn destun gwaith craffu seneddol priodol, a (b) rhaid iddi fod yn glir, yn fanwl ac wedi’i drafftio’n dda; a
  • Rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol fod y ddeddfwrfa sy’n gyfrifol am ddeddfu mewn meysydd datganoledig.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ymdrin â’r cwestiwn ynghylch diben yr Undeb wrth ystyried deddfwriaeth ynghylch gadael yr UE.

“Yr hyn sy’n gwneud sefyllfa Cymru yn arbennig o ansicr yw bod cyflwyno Bil y Diddymu Mawr yn cyd-daro â setliad datganoli sy’n newid ac sydd heb ei brofi,” meddai Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

“Unwaith y bydd y model cadw pwerau ar waith, bydd hyd a lled ein cymhwysedd deddfwriaethol yn newid, ac mae’n anodd dweud yn hyderus beth fydd cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

“Fodd bynnag, yn seiliedig ar driniaeth Llywodraeth y DU o Ddeddf Cymru 2017, rydym yn pryderu y gallai’r Cynulliad Cenedlaethol golli pwerau i reolaeth ganolog yn sgil gadael yr UE, yn enwedig mewn meysydd polisi sydd wedi dibynnu’n helaeth ar gyfraith yr UE.

“Ar y cyfan, y mater allweddol y mae angen mynd i Lywodraeth y DU fynd i’r afael ag ef yw creu cyd-destun cyfreithiol a chyfansoddiadol sy’n addas i’r gwledydd datganoledig a’r DU ar ôl gadael yr UE. Mae angen datblygu’r cyd-destun hwnnw mewn partneriaeth â’r gwledydd datganoledig yn hytrach na gorfodi trefniadau arnynt.”

Mae’r Pwyllgor wedi cyflwyno ei gasgliadau i Bwyllgor Gweithdrefn Tŷ’r Cyffredin, ac i Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, fel rhan o’i ymchwiliad i Fil y Diddymu Mawr.

Llythyr ir Cadeirydd Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Ymateb Ymchwiliad Bil