Ni fydd y Bil Cymru newydd yn cyflwyno setliad parhaol, meddai pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 06/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/10/2016

​Mae'r Bil Cymru sy'n mynd trwy Senedd y DU ar hyn o bryd yn rhy gymhleth, yn fiwrocrataidd ac ni fydd yn cyflwyno setliad parhaol, yn ôl Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol hefyd yn dod i'r casgliad nad yw'n cyflawni mwy o gydraddoldeb â'r Alban a Gogledd Iwerddon o ran pwerau a chyfrifoldebau, ac mewn gwirionedd mae’n cyflwyno’r posibilrwydd y gallai’r setliad datganoli presennol gael ei leihau.

Mae'r Pwyllgor yn credu bod Llywodraeth y DU wedi colli cyfle euraidd i gyflwyno deddf gyda chonsensws bob ochr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol, hyd yn oed ar ôl oedi'r broses yn ystod y cam cyn-ddeddfwriaethol yn dilyn cryn feirniadaeth.

Roedd y Pwyllgor yn falch bod Bil Cymru yn cynnwys:

  • symud i fodel pwerau cadw, a fyddai'n golygu pwerau ar wahân i'r rhai a gedwir yn benodol gan Senedd y DU yn dod i Gymru;
  • datganiad am barhauster Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru; a
  • rhoi cymhwysedd mewn perthynas ag etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol a'r system etholiadol.

Ond y cymhlethdod a'r diffyg eglurder sy'n bwrw amheuaeth ar wydnwch y setliad. Mae'r methiant i ddarparu awdurdodaeth wahanol neu ar wahân i Gymru yn ychwanegu at y cymhlethdod a'r gwydnwch ac, yn ôl y Pwyllgor, bydd yn arwain at bwysau am newid.

Mae'r Bil hefyd yn ychwanegu biwrocratiaeth ychwanegol ar adeg y mae Llywodraeth y DU ei hun yn annog effeithlonrwydd.

Roedd y Pwyllgor yn siomedig i glywed, er bod y rhestr o bwerau cadw yn fyrrach, mewn llawer o achosion mae pwerau wedi cael eu rhoi mewn un categori. Un enghraifft yw penseiri, archwilwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol. O'r blaen roedd pob un wedi'i restru ar ei ben ei hun, ond yn y Bil newydd mae'r tri wedi'u cynnwys o hyd o dan un cymal cadw.

"Mae'n siomedig gweld nad yw Llywodraeth y DU wedi derbyn llawer o'r argymhellion teilwng a phwysig a wnaed gan lawer o bobl a sefydliadau, gan gynnwys rhagflaenydd y Pwyllgor hwn," meddai Huw Irranca-Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

"Er ein bod yn derbyn bod rhai newidiadau er gwell, mae gan Gymru nawr ddeddf gymhleth sy'n bygwth lleihau ein pwerau presennol ac sy'n methu â rhoi mwy o gydraddoldeb i ni â'r gwledydd datganoledig eraill.

"Mae'r fiwrocratiaeth ychwanegol sy'n dod gyda'r Bil hwn, ar adeg pan mae Llywodraeth y DU yn annog lleihau biwrocratiaeth, yn golygu efallai cyn hir y byddwn ni wrthi'n trafod eto i geisio llunio setliad cyfansoddiadol, parhaus newydd i Gymru. Sef yr union beth yr oedd y ddeddf hon i fod."

Mae'r Pwyllgor hefyd yn feirniadol o ba mor gyflym aethpwyd â'r Bil drwy Dŷ'r Cyffredin, sy'n golygu fod gan Dŷ'r Arglwyddi 'faich ychwanegol o ran cyfrifoldeb am graffu effeithiol cyn y gellir pasio'r Bil hwn fel un addas at y diben.'

Mae Aelodau wedi galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu dull newydd o ymdrin â chyfraith gyfansoddiadol sy'n ymwneud â deddfwrfeydd datganoledig. Un a fydd yn cynnwys:

  • gwaith rhynglywodraethol ar ddatblygu polisi a drafftio Biliau;
  • holl bwyllgorau perthnasol y Cynulliad a Senedd y DU yn ystyried y Biliau cyfansoddiadol naill ai gyda'i gilydd neu mewn sesiynau ar y cyd; ac
  • fel y bo'n briodol, Gweinidogion y Goron, yr Ysgrifennydd Gwladol a Phrif Weinidog Cymru i ymddangos yn gyhoeddus o flaen yr holl bwyllgorau seneddol perthnasol.

Dywedodd Mr Irranca-Davies:

"Ar adeg pan mae'r DU yn diffinio ei pherthynas ag Ewrop yn dilyn refferendwm yr UE, dylai hefyd fod yn diffinio'r berthynas rhwng ei haelod wledydd ei hun.

"Rydym yn credu y byddai'n llawer mwy synhwyrol ond hefyd yn hanfodol pe byddai modd cytunedig o gydweithredu rhwng dau gorff seneddol - rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'i bwyllgorau, a'r Senedd, ei dau Dŷ a'i phwyllgorau.

"Rydym yn argymell datblygu ffyrdd newydd o weithio gyda'n gilydd fel mater o frys, yn ddelfrydol cyn i ddeddfwriaeth gyfansoddiadol bwysig arall gael ei dwyn ymlaen, ac mae ein pwyllgor yn barod i gyfrannu at y gwaith hwn."

Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cyflwyno ei ganfyddiadau i Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ddydd Mercher 12 Hydref yn Llundain.