Nid oes gan Faes Awyr Caerdydd gynllun busnes tymor hir, meddai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 24/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/04/2016

Mae Maes Awyr Caerdydd yn methu ei dargedau ei hun o ran nifer y teithwyr sy'n ei ddefnyddio a'r elw sy'n cael ei greu, ac nid oes ganddo gynllun twf ar gyfer y tymor hir, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Canfu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod gan Lywodraeth Cymru sail resymegol glir ar gyfer prynu'r maes awyr, o ystyried ei ddirywiad o dan berchnogaeth Abertis, y perchennog blaenorol. Fodd bynnag, canfu'r Pwyllgor wendidau yn y gwaith paratoi a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'i hachos busnes dros brynu'r maes awyr. 

Mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio'r maes awyr wedi codi o dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru. Serch hynn

y, mae'r Pwyllgor yn nodi nad yw'r cynnydd wedi cyrraedd y lefel a ragwelwyd, a bod rheolwyr y maes awyr wedi cydnabod bod y niferoedd flwyddyn y tu ôl i'r targed a bennwyd.

Ar hyn o bryd, cynlluniau busnes dwy flynnedd sy'n cael eu cymeradwyo ar gyfer Maes Awyr Caerdydd. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor yn nodi bod Glasgow Prestwick, sydd hefyd o dan berchnogaeth gyhoeddus, yn gweithredu gyda chynlluniau tymor hir.

Codwyd cwestiynau ynghylch bwrdd cyfarwyddwyr Cardiff International Airport Limited (CIAL), a diffyg profiad cymharol aelodau'r bwrdd ym maes hedfan neu gwmnïau hedfan. Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid ehangu aelodaeth y bwrdd i gynnwys profiad ehangach o'r diwydiant a'r cyfleoedd sydd ar gael.

Trafododd y Pwyllgor y posibilrwydd o fuddiannau yn gwrthdaro, yn sgil y ffaith bod aelod o fwrdd Holdco, cwmni daliannol hyd braich y maes awyr, hefyd yn un o uwch-weision sifil Llywodraeth Cymru, a hynny mewn adran sydd wedi torri gwariant ar hysbysebu mewn perthynas â'r maes awyr.

Mae gwrthdaro rhwng buddiannau yn thema sydd wedi codi dro ar ôl tro yng ngwaith y Pwyllgor, gan gynnwys ei ymchwiliadau i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio a Chronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru.

"Mae'n amlwg o'n hadroddiad nad yw tybiaethau Llywodraeth Cymru ynghylch perfformiad masnachol Maes Awyr Caerdydd yn y dyfodol wedi cael eu gwireddu, o leiaf yn y tymor byr," meddai Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Canfu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod gan Lywodraeth Cymru sail resymegol glir ar gyfer prynu'r maes awyr, o ystyried ei ddirywiad a'r ffaith bod y rhagolygon ar gyfer gwyrdroi'r sefyllfa honno wedi bod mor llwm. 

"Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod gan Gymru faes awyr rhyngwladol ei hun, a'r manteision ehangach sy'n deillio i Gymru o'i gael.

"Fodd bynnag, er bod gan y maes awyr y potensial i dyfu'n sylweddol, rydym yn nodi bod y cynnydd yn nifer y teithwyr sy'n defnyddio'r maes awyr y tu ôl i'r targed a bennwyd yn y cynllun busnes caffael.

"Rydym hefyd yn tynnu sylw at y posibilrwydd o wrthdaro rhwng Holdco a Llywodraeth Cymru. Yn anffodus, mae'r materion hyn wedi bod yn thema gyson yn ein gwaith, er enghraifft yn ein hymchwiliadau i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio a Chronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 10 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Rydym yn cydnabod ansicrwydd cynllunio busnes yn y tymor hirach ac y gallai Holdco ddymuno cymeradwyo camau gweithredu yn ffurfiol ar ragolwg dwy flynedd.  Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylai Holdco hefyd ofyn am ragamcaniadau ariannol tymor canolig a thymor hir fel rhan o'i adolygiad o gynlluniau busnes y maes awyr.
  • Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ymgysylltu â Transport Scotland i ddeall yr ymagwedd wahanol y mae wedi ei chymryd tuag at aelodaeth ei gwmni daliannol, sut mae gwrthdaro rhwng buddiannau yn cael ei reoli o fewn model yr Alban ac ystyried rhinweddau dull gweithredu o'r fath ochr yn ochr â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i ystyried cyfansoddiad byrddau'r Cwmni Cyfyngedig a Holdco; ac
  • Rydym yn argymell bod Holdco yn annog Bwrdd y Cwmni Cyfyngedig i ystyried ehangu ei Aelodaeth i gynnwys profiad ehangach ym maes hedfan a/neu gwmnïau hedfan.

Lywodraeth Cymru yn caffael a phrynu Maes Awyr Caerdydd (PDF, 460KN)

Llun: Ben Salter (Flickr), dan drwydded Creative Commons