Nid yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'i blaenoriaethau hi, meddai un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 12/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Nid yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'i blaenoriaethau hi, meddai un o Bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

12 Tachwedd 2013

Nid yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cyd-fynd â'i rhaglen hi ei hun, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Er bod datganiadau gan Lywodraeth Cymru yn hawlio bod hon yn gyllideb ar gyfer 'swyddi a thwf', canfu'r Pwyllgor Cyllid fod mwy o arian yn cael ei ddyrannu ar gyfer gwasanaethau iechyd.

Mae'r Pwyllgor am i flaenoriaethau'r Llywodraeth gael eu hadlewyrchu a'u hamlygu'n gliriach yng nghynigion y gyllideb.

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn pryderu hefyd fod diffyg manylion am y goblygiadau ariannol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth bresennol a deddfwriaeth sydd i ddod, ac mae wedi penderfynu cynnal ymchwiliad i ystyried y mater yn fanwl.

Meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Mae'n ymddangos bod y gyllideb ddrafft a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn mynd yn groes i'r flaenoriaeth a nodwyd ganddi, sef 'swyddi a thwf,' gan ymrwymo mwy o gyllid i wasanaethau iechyd.

"Mae'r Pwyllgor yn cydnabod rhesymau'r Gweinidog Cyllid dros wneud penderfyniad o'r fath ond mae'n credu y dylai blaenoriaethau a chyllidebau'r Llywodraeth fod yn fwy cydnaws â'i gilydd.

"Rydym yn pryderu hefyd fod diffyg gwybodaeth ariannol am gyfreithiau sydd eisoes wedi dod i rym neu rai a fydd yn dod i rym dros y flwyddyn nesaf.

"Mae'r Pwyllgor yn ymwybodol fod mwy a mwy o ddeddfwriaeth ar y gorwel ac rydym yn credu ei bod yn hollbwysig i Lywodraeth Cymru wneud pob ymdrech i sicrhau bod arian yn y gyllideb i roi'r cyfreithiau hyn ar waith.


"Mae Aelodau'r Cynulliad a'u staff cymorth, a thimau gwasanaeth ymchwil a gwasanaeth pwyllgorau'r Cynulliad, wedi gweithio'n galed i ddatblygu eu gallu i graffu ar gyllid y Llywodraeth. O ganlyniad, gallwn ofyn cwestiynau mwy heriol ynglyn â'r rhesymau dros wneud penderfyniadau a'u heffaith ar bobl Cymru.

“Rydym wedi gwneud gwelliannau, ond yn sgîl y cyhoeddiadau diweddar am y posibilrwydd o ddatganoli cyfrifoldebau benthyca a threthi newydd, rydym hefyd yn ymwybodol y bydd angen i'r Cynulliad wneud mwy o welliannau i'w brosesau craffu yn y dyfodol."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 22 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Rydym yn croesawu’r gwelliannau i’r modd y caiff y gyllideb ei chyflwyno, sy’n adeiladu ar waith a ddechreuwyd y llynedd. Fodd bynnag, rydym yn argymell y dylai’r gwaith hwn barhau i ddatblygu tryloywder o ran yr aliniad rhwng dyraniadau’r gyllideb a’r Rhaglen Lywodraethu;

  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau mwy o dryloywder ynglyn â phenderfyniadau i ail-flaenoriaethu. Dylid rhoi’r un faint o dryloywder i doriadau ag i ddyraniadau ychwanegol, a;

  • Dylai'r Pwyllgor Cyllid gynnal ymchwiliad i oblygiadau ariannol deddfwriaeth a basiwyd yn flaenorol gan y Cynulliad, a sut y mae hyn yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru.