O’r Fferm i’r Fforc – Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dymuno clywed barn y cyhoedd ar gynhyrchu a hybu bwyd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 15/01/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

O’r Fferm i’r  Fforc – Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dymuno clywed barn y cyhoedd ar gynhyrchu a hybu bwyd yng Nghymru

Mae Is-bwyllgor Datblygu Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad cynhwysfawr i gynhyrchu a hybu bwyd yng Nghymru, o’i gynhyrchu i’w dreulio.

Er mwyn cael darlun cyflawn o ba mor effeithiol yw cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth hybu twf y sector bwyd-amaeth yng Nghymru, mae’r pwyllgor yn awyddus i glywed gan y rheini sy’n perthyn yn uniongyrchol i’r sector.  Mae hyn yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd a masnachwyr, prosesyddion, y rhai sy’n hyrwyddo ac yn marchnata cynnyrch bwyd o Gymru, manwerthwyr a chwsmeriaid.  

Bydd y pwyllgor yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ar y pwnc hwn ddydd Iau 15 Ionawr, gan gychwyn gyda sesiwn cyflwyno cefndir y sector bwyd-amaeth yng Nghymru gan yr Athro Kevin Morgan a Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd. Wedyn cynhelir trafodaeth o amgylch y bwrdd ar y prif faterion gyda chynrychiolwyr o’r sector bwyd-amaeth yng Nghymru a’r Pwyllgor.  Nod y sesiwn hon fydd clywed beth yw’r prif faterion sy’n wynebu’r diwydiant, a’r meysydd y dylai’r Pwyllgor fod yn eu hystyried fel rhan o’i ymchwiliad.

Dywedodd Alun Davies AC, Cadeirydd yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig: “Mae’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig yn cynnal adolygiad llawn o’r sector bwyd-amaeth yng Nghymru.  Ar adeg o gyni economaidd, yn enwedig i fusnesau bach, mae’n bwysig bod y Cynulliad Cenedlaethol yn asesu llwyddiant cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y maes hwn hyd yma a hefyd yn gwerthuso priodoldeb cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer dyfodol y sector.

“Nod yr ymchwiliad yw edrych ar y broses “o’r fferm i’r fforc” er mwyn sicrhau bod modd manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ym mhob cam o’r gadwyn cyflenwi bwyd yng Nghymru.”

Mae pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol felly yn awyddus i glywed gan rai sydd â diddordeb, am effeithiolrwydd strategaethau sector bwyd-amaeth, cynlluniau marchnata fel Gwir Flas; heriau a chyfleoedd sy’n wynebu’r sector ac enghreifftiau o’r arfer gorau.  

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor erbyn 13 Chwefror 2009 fan bellaf, i Sustainability.comm@Cymru.gsi.gov.uk.

Nodiadau i’r Golygyddion

Rhagor o wybodaeth am ymchwiliad yr Is-bwyllgor Datblygu Gwledig  

Safonau Ymddygiad ar wefan y Cynulliad

Gwahoddir y rhai sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Claire Morris, Gwasanaeth y Pwyllgorau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA, erbyn 13 Chwefror 2009 fan bellaf. Os yn bosibl, a wnewch chi gyflwyno fersiwn electronig ar fformat MS Word neu Rich Text, drwy e-bost i Sustainability.comm@Cymru.gsi.gov.uk

Gall y Pwyllgor alw ar y rheiny sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ategu’r dystiolaeth honno drwy gyflwyno tystiolaeth lafar gerbron y Pwyllgor.  Nodwch yn eich ymateb a ydych yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar.

Dylai tystion fod yn ymwybodol y caiff unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynir i’r Pwyllgor ei thrin fel eiddo’r Pwyllgor. Bwriad y Pwyllgor yw rhoi papurau ysgrifenedig ar ei wefan, ac efallai y cânt eu hargraffu gyda’r adroddiad.