Mae ymchwiliad newydd yn mynd rhagddo sy'n ystyried pa mor dda y mae athrawon yn cael eu hyfforddi a'u datblygu yng Nghymru.
Bydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried honiadau mewn adroddiad gan yr Athro John Furlong bod safonau yma yn brin o arferion gorau rhyngwladol.
Bydd Aelodau hefyd yn edrych ar yr hyn sydd angen ei wneud i baratoi athrawon ar gyfer cwricwlwm newydd radical, fel yr argymhellwyd gan Adolygiad Donaldson, sy'n edrych ar y ddarpariaeth addysg mewn ysgolion yng Nghymru.
Ym mis Gorffennaf 2016, cyhoeddodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ei bod yn bwriadu datblygu strategaeth gweithlu ac arweiniad i nodi darlun clir a chydlynol o'r ffordd ymlaen ar gyfer staff addysgu.
Yn benodol, mae'r Pwyllgor am glywed barn ar:
- Y trefniadau o ran datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer y gweithlu presennol;
- Rôl addysg gychwynnol i athrawon; a
- Digonolrwydd y gweithlu yn y dyfodol.
"Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer addysg yng Nghymru," meddai Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
"Bydd cyflwyno cwricwlwm newydd radical yn gofyn am staff addysgu sydd â'r sgiliau gorau a'r hyder i'w defnyddio.
"Mae'n rhaid hefyd cael cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau hynny gyda rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.
"Rydym yn bwriadu edrych ar ba drefniadau hyfforddi athrawon sydd ar waith ar hyn o bryd, pa mor effeithiol ydynt, beth yw rôl addysg gychwynnol i athrawon, ac a yw’r mesurau hyn yn ddigonol ar gyfer y dyfodol?"
Dylai unrhyw un sydd am gyfrannu at yr ymchwiliad fynd i dudalen ymgynghoriad y Pwyllgor i gael rhagor o wybodaeth, neu anfon neges e-bost at SeneddCYPE@cynulliad.cymru, neu gysylltu â’r Pwyllgor drwy Twitter @SeneddCype.