Pa mor hygyrch yw gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru? Pwyllgor Cynulliad yn dechrau ymchwiliad
12 Chwefror 2010Mae Pwyllgor Cyfle Cyfartal Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i hygyrchedd gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru.
Nod yr ymchwiliad fydd ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru a sefydliadau allweddol eraill eu cymryd i wella hygyrchedd gorsafoedd rheilffordd.
I gynorthwyo’r ymchwiliad, mae’r Pwyllgor yn galw ar bobl sydd â phrofiad neu wybodaeth am unrhyw rai o’r materion canlynol i gyflwyno tystiolaeth;
platfformau ac ardaloedd eraill o’r orsaf sy’n anhygyrch;
cyfleusterau anhygyrch, fel toiledau neu wasanaethau gwybodaeth;
problemau wrth symud rhwng y trên a’r platfform;
gorsafoedd nad ydynt wedi’u staffio neu sydd â nifer cyfyngedig o staff;
pa gymorth sydd ar gael i helpu pobl i oresgyn y trafferthion hyn?
a yw’r cymorth hwn yn cael cyhoeddusrwydd / ei hysbysebu’n dda?
pa newidiadau y gellir eu gwneud i wella hygyrchedd i chi mewn gorsafoedd rheilffordd?
Nid oes angen i’r cyflwyniad fynd i’r afael â’r holl feysydd hyn ac mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. Dylai cyfwyniadau gyrraedd erbyn dydd Iau Ebrill 2010.
Gellir anfon cyflwyniadau drwy e-bost at glerc y pwyllgor yn equality.comm@wales.gsi.gov.uk neu gellir eu hanfon at:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Stryd y Pierhead
Caerdydd CF99 1NA.