Paentiadau prin Kyffin Williams mewn arddangosfa canmlwyddiant yn y Senedd

Cyhoeddwyd 01/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/10/2018

Bydd gwaith na welir yn aml gan yr arlunydd nodedig o Gymru, Syr Kyffin Williams RA, yn cael eu harddangos yn y Senedd drwy gydol mis Hydref.

Mae'r arddangosfa, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams, yn benllanw dathliadau canmlwyddiant ers geni'r arlunydd sy'n cael ei ystyried yn un o artistiaid mwyaf nodedig yr 20fed ganrif.

Bydd ymwelwyr â'r Senedd yn gallu gweld paentiadau a phrintiadau o gasgliadau preifat yn ogystal â ffilmiau archif o Syr Kyffin, oedd yn byw ym Mhwllfanogl, Llanfairpwll, ar Ynys Môn. 

Dywedodd David Meredith, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams:

"Roedd Syr Kyffin Williams wirioneddol yn gawr o artist a oedd yn rhoi'r bobl, tirluniau a morluniau, yn ogystal ag anifeiliaid a blodau o Gymru, ar bedestal.

"Gyda rhoddion o'i gasgliad enfawr o gelf i Oriel Môn yn Llangefni ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, Syr Kyffin yw un o gymwynaswyr mwyaf Cymru.

"Ni allaf feddwl am well anrhydedd na medru dod â phenllanw Dathliadau Canmlwyddiant Syr Kyffin yng Nghymru (1918-2018) i'r Senedd ym Mae Caerdydd.

"Ar ran yr Ymddiriedolaeth, hoffwn ddiolch i'r Cynulliad am y gydnabyddiaeth swyddogol hon, a fyddai, rwy'n gwybod wedi rhoi pleser mawr i Kyffin."

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

"Hoffwn ddiolch i Ymddiriedolaeth Syr Kyffin Williams am ddewis y Senedd fel lleoliad addas ar gyfer uchafbwynt eu dathliadau canmlwyddiant, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr i weld y gweithiau nodedig hyn yn cael eu harddangos.

"Hoffwn groesawu rhagor o gelfyddyd ac artistiaid i'r Senedd o bob rhan o Gymru er mwyn helpu ymwelwyr i ddeall ein hanes a'n treftadaeth falch yn well."

Bydd gwahoddedigion yn dod i agoriad swyddogol yr arddangosfa ddydd Mercher, 3 Hydref, cyn y bydd yn agor yn ffurfiol i'r cyhoedd ddydd Iau 4 Hydref.

Ddydd Sadwrn 27 Hydref, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig taith arbennig o amgylch yr arddangosfa a fydd yn gyfle i ddysgu mwy am fywyd a gwaith Syr Kyffin Williams. Rhaid cadw lle ymlaen llaw – ffoniwch 0300 2006565 neu anfonwch e-bost at cysylltu@cynulliad.cymru