“Pan ry’ chi’n cael eich troi allan, mae pobl yn cymryd yn ganiataol mai’r rheswm yw am nad ydych chi wedi talu eich biliau. Rydw i wedi gweithio erioed, a wastad wedi talu fy ffordd.”

Cyhoeddwyd 13/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/02/2020

​Heddiw mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad Cenedlaethol yn lansio ymgynghoriad ar Fil Rhentu Cartrefi (Diwygio) Llywodraeth Cymru. Mae'r Bil yn cynnig cynyddu'r cyfnod rhybudd ar gyfer troi pobl allan o'u cartrefi 'heb fai' - o dan delerau 'Adran 21' – o ddau fis, sef y lleiafswm ar hyn o bryd, i leiafswm o chwe mis.

Bydd hefyd yn cyfyngu ar roi hysbysiad o'r fath cyn pen chwe mis i ddyddiad dechrau'r contract. Mae hyn yn golygu y bydd tenant yn byw mewn eiddo am 12 mis cyn y gall y landlord gael meddiant ohono (cyn belled nad yw deiliad y contract yn torri telerau'r contract).

Yn ôl Llywodraeth Cymru, pwrpas y Bil yw gwella "sicrwydd meddiannaeth" i bobl sy'n rhentu eu cartrefi.

Mae dros 200,000 o gartrefi ar rent preifat yng Nghymru lle mae tenantiaid mewn perygl o gael eu troi allan heb unrhyw fai. Ar hyn o bryd mae'r farchnad rhentu breifat yn cyfrif am oddeutu 15% o'r holl gartrefi, wedi i'r swm fwy na dyblu er 2000/01, ac mae'n cynnig opsiwn pwysig o ran tai. Mae'r bobl sy'n byw mewn llety rhent preifat hefyd yn newid: mae niferoedd cynyddol o deuluoedd â phlant a phobl hŷn yn rhentu am gyfnodau hirach.

Bydd y Pwyllgor yn cymryd tystiolaeth gan arbenigwyr, tenantiaid, landlordiaid a phobl allweddol eraill i edrych ar gynigion Llywodraeth Cymru.

Barn ranedig

Gan edrych ar y newidiadau sy'n cael eu cynnig ar gyfer Adran 21 'troi allan heb fai', bydd y Pwyllgor yn clywed amrywiaeth o safbwyntiau gan denantiaid, landlordiaid ac arbenigwyr tai. Mae'n amlwg bod barn ranedig ar y mater.

Cafodd Darren a Lisa Pitts-Whitby, o Abergele eu troi allan o'u cartref rhent preifat dal delerau rhybudd Adran 21 gan fod eu landlord eisiau gwerthu'r tŷ. Naw mis ar ôl iddynt orfod gadael eu cartref mae'r tŷ dal ar y farchnad tra eu bod nhw'n byw mewn llety dros dro gorlawn. Mi fuon nhw'n byw yn gyntaf mewn carafán, ac erbyn hyn maen nhw'n byw mewn tŷ sy'n rhy fach ar eu cyfer nhw.

Mae gan Darren a Lisa chwech o blant rhwng 4 a 25 oed, gan gynnwys plant maeth. Mae eu pedair merch i gyd yn rhannu un ystafell wely. Mae tri o'u plant yn awtistig ac yn methu â newid ysgolion gan y byddai'n cael effaith negyddol ar eu hiechyd, ac felly mae'n rhaid iddyn nhw fyw o fewn dalgylch yr ysgol.

Dywedodd Darren: "Pan ry' chi'n cael eich troi allan, mae pobl yn cymryd yn ganiataol mai'r rheswm yw am nad ydych chi wedi talu eich biliau. Rydw i wedi gweithio erioed, a wastad wedi talu fy ffordd.

"Ni roddodd y landlord unrhyw rybudd i ni, a doedd dim amser i ni gael trefn ar unrhyw beth. Ac mae'r tŷ yn dal ar y farchnad nawr".

Ar y llaw arall, nid yw Shirley Longley, sy'n landlord yng Nghonwy yn credu fod angen newid telerau Adran 21: "Mae'n gwbl ddiangen gwneud y newid hwn. Nid oes unrhyw landlord eisiau colli tenant sy'n talu'r rhent. Mae landlordiaid eisiau i denantiaid tymor hir aros cyhyd â phosib gan fod trosiant tenantiaid yn gostus. Nid ydym yn cicio pobl allan i godi rhenti! Nid yw rhenti'n codi mor gyflym â hynny ac mae'n well aros gyda rhent is a thenant tymor hir na throi allan denantiaid er mwyn cael ychydig bunnoedd yn ychwanegol."

Cael y cydbwysedd yn iawn

Dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:

"Mae'r ffordd rydyn ni'n byw yng Nghymru yn newid. Gyda mwy a mwy o bobl yn byw mewn cartrefi rhent preifat mae'n iawn ein bod yn edrych ar y ffordd y mae'r farchnad yn gweithredu a'r materion y mae tenantiaid yn eu hwynebu. Mae hefyd yn bwysig clywed gan landlordiaid am yr heriau sy'n eu hwynebu wrth ddarparu llety i gynifer o bobl ledled y wlad.

"Wrth edrych ar y Bil hwn bydd y Pwyllgor yn gwrando ar gynifer o bobl sy'n ymwneud â'r sector rhentu preifat â phosibl, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael eu troi allan o'u cartrefi heb fai. Gyda phobl o bob cefndir ac amgylchiad yn dibynnu ar y farchnad rentu, ein gwaith ni yw sicrhau bod cynigion Llywodraeth Cymru yn taro cydbwysedd sy'n amddiffyn tenantiaid a chefnogi landlordiaid."

Mae Cyngor ar Bopeth Cymru yn cynnig cymorth i bobl ar draws y wlad, ac yn gyfarwydd â'r heriau sy'n wynebu tenantiaid a landlordiaid. Ychwanegodd Rebecca Woolley Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth, Cymru:

"Y llynedd, helpodd Cyngor ar Bopeth Cymru bobl â mwy na 3000 o broblemau yn ymwneud â byw mewn llety rhent preifat. Mae'n amlwg bod angen gwneud rhagor i helpu pobl i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi. Rydym yn croesawu'r camau a nodir ym Mil drafft Llywodraeth Cymru, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda rhanddeiliaid eraill i roi rhagor o sicrwydd i bobl sy'n rhentu yng Nghymru."