Panel annibynnol i gynnal adolygiad o lwfansau Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 09/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Panel annibynnol i gynnal adolygiad o lwfansau Aelodau’r Cynulliad

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi cyhoeddi y caiff panel annibynnol ei sefydlu i ystyried y cymorth a roddir i’r Aelodau.

Mae’r Comisiwn hefyd wedi cytuno mewn egwyddor i gyhoeddi manylion y costau a gaiff eu hawlio gan yr Aelodau o dan y system lwfansau bresennol.

Cytunodd y Comisiwn y dylai cwmpas yr adolygiad hwn o gymorth yr Aelodau fod yn eang, ac na ddylai gael ei gyfyngu gan gwestiynau arbennig na’r system bresennol a geir yma nac yng ngweddill y DU. Maent am i banel yr adolygiad gynnal archwiliad sylfaenol o bob agwedd ar dâl a chymorth a roddir i’r Aelodau a rhoddir briff eang i’r panel yn egluro y dylent ystyried yr holl bosibiliadau, gan gynnwys gwyro’n llwyr oddi wrth yr arferion presennol. Yn ogystal â phenodi’r aelodau annibynnol gorau posibl i’r panel ei hun, mae eraill sydd ag arbenigedd perthnasol sylweddol, er enghraifft ym maes llywodraeth leol ac yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a bydd y Comisiwn yn defnyddio ystod eang o arbenigeddau i ymgymryd â’r adolygiad.

Dywedodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, sydd hefyd yn cadeirio’r Comisiwn: “Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw ac mae hynny’n cynnwys gwybodaeth am y tâl a’r cymorth a gawn ni. Byddwn yn cyhoeddi manylion y lwfansau a gaiff eu hawlio ac mae’r gwaith o gasglu’r wybodaeth honno eisoes yn mynd rhagddo. Rydym yn aros am ganlyniad gwrandawiad yn yr Uchel Lys sy’n ymwneud â gwybodaeth a gyhoeddir gan Dy’r Cyffredin, gan y bydd hyn yn rhoi arweiniad clir o’r union wybodaeth a ddylai gael ei chyhoeddi.

“Rydym hefyd yn benderfynol y dylid diwygio pob agwedd ar y cymorth a roddir i’r Aelodau. Rydym wedi ymrwymo i benodi’r bobl gorau posibl i wasanaethu ar y panel. Rhoddir cylch gwaith eang i’r panel hwnnw - ystyrir popeth yn ddi-wahan - rydym am gael system o gymorth i’r Aelodau sy’n addas i’r Cynulliad ac yn addas i Gymru.”