Pennaeth cynllun cydraddoldeb y Cynulliad ar restr fer gwobrau Ysbrydoli Cymru

Cyhoeddwyd 11/06/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pennaeth cynllun cydraddoldeb y Cynulliad ar restr fer gwobrau Ysbrydoli Cymru

11 Mehefin 2010

Mae un o weithwyr y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori’r Dinesydd Gweithredol yng ngwobrau Ysbrydoli Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig.

Mae Adam Rees wedi cyrraedd y rhestr fer am ei waith ar gynllun arloesol Camu Ymlaen Cymru, sef cynllun sy’n cynnig mentora gwleidyddol - partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Chymdeithas Llywodraeth Leol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Roedd y cynllun yn rhoi’r cyfle i 34 unigolyn o grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol i dreulio amser gyda chynghorwyr lleol ac Aelodau’r Cynulliad dros gyfnod o chwe mis, mewn ymgais i gynyddu cyfranogaeth eu grwpiau yn y broses ddemocrataidd.

Cyd-lynodd Mr Rees y fenter a darparodd amrywiaeth o gyngor ymarferol a phersonol i’r rhai a gymerodd rhan, gan gynnwys trefnu cyrsiau hyfforddi mewn meysydd fel “sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad” ac “ymwybyddiaeth o’r wasg”.

Cynorthwyodd y bobl a oedd yn rhan o’r fenter i ddod yn fwy gweithgar o fewn eu cymunedau, ac ers hynny, mae nifer ohonynt wedi sefydlu grwpiau cymunedol ac yn bwriadu sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiadau yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol: “Mae hon yn gydnabyddiaeth arwyddocaol a chwbl haeddiannol i Adam. Llywiodd Adam y Cynllun Camu Ymlaen Cymru yn ardderchog.

“Mae’r cynllun wedi bod yn hynod o lwyddiannus, gan ysbrydoli unigolion i ddilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth, annog eraill i gysylltu â’u gwleidyddion lleol a dod yn gynrychiolwyr yn y gymuned.

“Rhoddodd Adam arweiniad ac ysbrydoliaeth i’r mentoriaid a’r mentoreion fel ei gilydd gan ddilyn patrymau gwaith ymhell y tu hwnt i’w gyfrifoldebau. Mae’r ffaith ei fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon yn dyst i’w ymrwymiad i rannu a hyrwyddo holl werthoedd cydraddoldeb.”

Dywedodd Mr Rees: “Roedd yn fraint bod ynghlwm â Chynllun Camu Ymlaen Cymru, ac rwy’n hynod o falch fy mod wedi cael fy nghynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Roedd yn anhygoel i wylio’r unigolion yn datblygu mewn cyn lleied o amser.

“Ar y cychwyn, ychydig o hyder oedd ganddynt ynddynt eu hunain a’r cyrff cyhoeddus o’u hamgylch, ond erbyn hyn, maent wedi datblygu i fod yn bobl gryf ac ysbrydoledig sy’n awyddus i lesio’u barn.

“Edrychaf ymlaen at y seremoni swyddogol ar 15 Mehefin”

Nodiadau i olygyddion:-

Gellir cael rhagor o wybodaeth yma am wobrau Ysbrydoli Cymru ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig

Gellir cael rhagor o wybodaeth yma am gynllun y Cynulliad, Camu Ymlaen Cymru.