Penodi Cyfarwyddwr Busnes newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 20/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/12/2018

Penodwyd Siwan Davies yn Gyfarwyddwr Busnes newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Cyfarwyddwr yn gyfrifol am y gwasanaethau sydd eu hangen ar Aelodau'r Cynulliad i gyflawni eu gwaith yn y Cyfarfod Llawn a'r pwyllgorau. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn cynnwys y timau clercio ar gyfer pwyllgorau a'r Cyfarfod Llawn, y gwasanaeth ymchwil a’r gwasanaethau cyfreithiol.

Mae Siwan yn meddu ar brofiad ac arbenigedd o fod yn uwch-arweinydd mewn ystod o swyddogaethau seneddol. Mae wedi cyflawni sawl swydd, gan gynnwys yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn Senedd Awstralia ac yn Senedd Queensland. Gwnaed y penodiad yn dilyn proses recriwtio drwyadl a chystadleuol.

Dywedodd Manon Antoniazzi, Clerc a Phrif Weithredwr y Cynulliad Cenedlaethol: "Rwyf wrth fy modd bod Siwan wedi derbyn y rôl hon, a hynny ar adeg dyngedfennol i fframwaith deddfwriaethol a chyfansoddiadol Cymru. Rwy’n gwbl hyderus y bydd ei phrofiad seneddol helaeth yn gaffaeliad mawr i ni wrth i'n democratiaeth ddechrau ar ei chyfnod trawsnewidiol nesaf."

Dywedodd Siwan Davies: "Mae’r cyfle i ymuno â’r tîm arweinyddiaeth i gefnogi Senedd ifanc ac uchelgeisiol sy’n cychwyn ar y cam nesaf yn ei datblygiad yn un sy’n apelio’n fawr. Rwy’n edrych ymlaen at arwain tîm deinamig ac ymroddedig i ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf i’r Cynulliad, yn awr ac yn y dyfodol."

Bydd Siwan yn cychwyn ar ei swydd ym mis Ionawr 2019.