Penodiad Archwilydd Cyffredinol newydd yn dod gam yn nes wrth i ran gyntaf y broses recriwtio gael ei chwblhau

Cyhoeddwyd 22/06/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Penodiad Archwilydd Cyffredinol newydd yn dod gam yn nes wrth i ran gyntaf y broses recriwtio gael ei chwblhau

22 Mehefin 2010

Dewiswyd Huw Vaughan Thomas fel yr ymgeisydd dewisol i fod yn Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru.

Bydd yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PCC) ar 28 Mehefin ac os caiff ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, bydd ei benodiad yn mynd gerbron holl Aelodau’r Cynulliad ar gyfer cymeradwyaeth derfynol yn hwyrach ym mis Mehefin.

“Byddai’n fraint ac yn anrhydedd fawr i gael fy mhenodi’n Archwilydd Cyffredinol Cymru,” meddai Mr Thomas.

“Mae’r swydd yn cynnig llawer o heriau, yn enwedig ar adeg pan mae llawer o ganolbwyntio ar arian cyhoeddus a sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.

“Ond mae tîm talentog iawn eisoes ar waith yn Swyddfa Archwilio Cymru ac os byddaf yn llwyddiannus, byddwn yn gyffrous i gael y cyfle i gydweithio â hwy.”

Mae’r broses o benodi Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru yn cwrdd â’r canllawiau caeth ar gyfer penodiadau cyhoeddus fel y nodwyd gan yr Arglwydd Nolan yn ei adroddiad ar safonau mewn bywyd cyhoeddus.

Roedd pedwar ymgeisydd ar y rhestr fer a chawsant eu cyfweld gan banel a benodwyd gan Gomisiwn y Cynulliad a oedd yn cynnwys tri aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Ar ôl cyfweld yr ymgeiswyr ddoe (21 Mehefin), dewisodd y panel un Huw Vaughan Thomas i fynd ymlaen i ran nesaf y broses benodi a bydd Mr Thomas yn ymddangos gerbron sesiwn lawn o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr wythnos nesaf.

“Dichon mai hon yw un o’r swyddi mwyaf amlwg a dylanwadol yng Nghymru,” meddai Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

“A dyna pam ei bod yn bwysig bod y pwyllgor wedi ymgymryd â’r broses benodi fel y gwnaeth.

“Teimlai’r panel penodi fod gennym bedwar ymgeisydd cryf.

“Roedd ei gefndir yn y sector gyhoeddus yn allweddol i’n penderfyniad i gyflwyno enw Mr Thomas i’w gymeradwyo gan y pwyllgor.”