Perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn "ofnadwy” ac "annerbyniol”, yn ôl Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 07/03/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn "ofnadwy” ac "annerbyniol”, yn ôl Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad

Nodwyd bod perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn "ofnadwy” mewn adroddiad gan Bwyllgor Archwilio’r Cynulliad a gyhoeddwyd heddiw.                   Dywed yr adroddiad fod yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans wedi methu darparu safonau amseroedd ymateb derbyniol ar gyfer gwasanaethau meddygol brys, ac mae amrywiaethau rhanbarthol annerbyniol mewn amseroedd ymateb, gyda de ddwyrain Cymru yn benodol ymhlith y gwaethaf. Yr oedd y perfformiad yn sylweddol waeth nag yn Lloegr, ac yr oedd hyn oherwydd aneffeithiolrwydd ac nid oherwydd diffyg staff nac arian. Yr oedd y rhesymau am fethiant yr Ymddiriedolaeth Ambiwlans yn niferus ac amrywiol ond fe’u hachoswyd gan wendidau ym mhob rhan o ymarfer rheoli ac nid gan ddiffyg adnoddau. Ymhlith y problemau gyda’r Ymddiriedolaeth yr oedd arweiniad annigonol, strwythur mewnol dryslyd a defnydd gwael o adnoddau ariannol.                                  Fodd bynnag, gwelodd y Pwyllgor Archwilio fod lle i fod yn obeithiol y gellir datrys y problemau hyn yn raddol cyn belled y gellir goresgyn heriau allweddol. Mae’r Pwyllgor yn rhoi nifer o argymhellion i geisio gwella safonau rheoli, caffael a safonau gwasanaeth. Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: "Mae gwasanaethau ambiwlans yn bwysig iawn i bobl Cymru ac maent yn chwarae rhan hanfodol yn rhoi sylw i bobl pan fônt ei angen fwyaf. Yr oedd y diffygion rheoli a arweiniodd at berfformiad gwael y gwasanaeth ambiwlans yn gwbl annerbyniol a dylent fod yn wers o ran lles sefydliadau eraill y sector gyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt. "Yr oedd y Pwyllgor wedi’i synnu gyda graddfa’r diffygion. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi cael adnoddau sylweddol i’w defnyddio ond mae wedi bod yn aneffeithiol yn y modd mae wedi’u defnyddio. Ond fe welsom fod sail i fod yn obeithiol y gall y gwasanaeth gael ei wella gan y tîm newydd dan arweiniad Alan Murray, ond dim ond os yw’r diffygion a nodwyd yn cael sylw.”