Perfformwyr o bob cwr o Gymru yn barod am benwythnos agored y Cynulliad Cenedlaethol
12 Tachwedd 2009
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ‘Penwythnos Agored’ y penwythnos hwn (Ta
chwedd 14 - 15) i ddathlu 10 mlynedd o ddatganoli a phum mlynedd ers i Ganolfan Mileniwm Cymru agor. Mae’r penwythnos hefyd yn nodi dechrau dathliadau “Ar Drywydd y Nadolig” ym Mae Caerdydd.
Bydd nifer o berfformiadau gwahanol yn cael eu cynnal i’r cyhoedd yn adeilad y Senedd, gan gynnwys perfformiadau gan y grwp theatr a dawns bywiog, ‘The Circus Pod’, Côr Meibion Caerffili, Cardiff Style Ladies Barbershop Chorus a Band Pres Dinas Caerdydd (Melin Griffith).
At hynny, mae’r beirdd nodedig, Ceri Wyn Jones a Gilian Clarke, wedi ysgrifennu cerddi’n arbennig at yr achlysur, a byddant yn perfformio’r rheini ynghyd â cherddi eraill o’u heiddo.
Bydd diwrnod cyntaf y penwythnos yn cloi gyda chyngerdd arbennig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a hynny gyda Karl Jenkins, y cyfansoddwr byd-enwog.
“Nid yw datganoli yn golygu’r Cynulliad Cenedlaethol a’i drigain o Aelodau yn unig,” meddai’r Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.
”Mae’n golygu agor drysau’r Senedd a gwahodd y cyhoedd i ymuno â ni yn eu hadeilad hwy i nodi 10 mlynedd o ddatganoli gyda dathliad i Gymru gyfan.
“Mae’r penwythnos hwn yn garreg filltir sy’n dangos bod Cymru’n aeddfedu’n wleidyddol – o ran datganoli – ac yn ddiwylliannol, wrth i Ganolfan Mileniwm Cymru ddathlu ei phen-blwydd yn bump oed.
“Roeddem am ddathlu gyda’r cyhoedd wrth i Gymru gyrraedd llawn oed, drwy eu gwahodd i Fae Caerdydd i fwynhau perfformiadau unigryw Cymreig.”
Bydd bws allgymorth y Cynulliad wedi’i barcio ar y safle dros yr holl benwythnos, gan roi cyfle i’r cyhoedd gyfarfod Aelodau’r Cynulliad a gofyn cwestiynau am waith y Cynulliad. Bydd adloniant i blant hefyd ar gael.