Pleidlais gyntaf wedi'i bwrw mewn Cyfarfod Llawn rhithwir wrth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gwrdd ar-lein

Cyhoeddwyd 08/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/04/2020

Mae’r bleidlais gyntaf wedi digwydd heddiw mewn sesiwn seneddol rithwir o'r Cynulliad Cenedlaethol, wrth i’r Senedd gwrdd am yr eildro gan ddefnyddio fideo-gynadledda.

Roedd y sesiwn y prynhawn yma, dydd Mercher 8 Ebrill, yn caniatáu i 28 Aelod gymryd rhan yn y trafodion, a oedd yn cynnwys datganiadau ar yr ymateb diweddaraf i Coronafeirws gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC. Yna fe gafwyd dadl a phleidlais ar Gam 1 Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Yn dilyn cynnal y Cyfarfod Llawn rhithwir cyntaf ar 1 Ebrill, mae seneddau eraill wedi cysylltu â'r Cynulliad i ofyn am gyngor ar ddefnyddio'r dechnoleg i gynnal eu cyfarfodydd eu hunain.

Wrth ymateb i’r cyfyngiadau i arbed lledaenu Coronafeirws, mae Busnes y Cynulliad wedi'i ddiwygio i flaenoriaethu materion sy'n ymwneud â’r argyfwng ac er mwyn caniatáu busnes arall sy'n hanfodol o ran amser. Roedd heddiw yn cynnwys ystyriaeth ar gyfer Cam 1 Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a fyddai’n gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed mewn etholiadau llywodraeth leol o 2021.

Roedd yr aelodau yn defnyddio pleidlais wedi'i bwysoli trwy alwad, gyda’r Llywydd yn galw cynrychiolydd o bob grŵp plaid i fwrw pleidleisiau ar ran holl aelodau'r grŵp. Roedd y Llywydd yna’n derbyn pleidlais yr aelodau annibynnol cyn cadarnhau’r canlyniad.  

Roedd cynrychiolaeth ar gyfer pob grŵp plaid wedi ei osod fel a ganlyn: gall 12 Aelod fod yn bresennol ar ran Llafur Cymru/Llywodraeth Cymru, 6 ar gyfer Ceidwadwyr Cymru, 4 Plaid Cymru a 2 Plaid Brexit. Grwpiau plaid sy’n penderfynu ar eu presenoldeb ac mae gan Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp hawl i fod yn bresennol hefyd.


Roedd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar-lein ar Senedd.tv ac ar sianel BBC Parliament. Mae'r sesiwn gyfan ar gael i'w gwylio eto yma



Cafodd y Cyfarfod Llawn rhithwir cyntaf ei gynnal yn llwyddiannus ar ddydd Mercher 1 Ebrill, gydag 16 Aelod yn cyfrannu o bob cwr o'r wlad. Hwn oedd y tro cyntaf i gyfarfod seneddol gael ei gynnal gan Senedd yn y DU trwy fideo-gynadledda, a'r tro cyntaf yn y byd iddo gael ei wneud yn ddwyieithog gyda chyfieithu ar yr un pryd. 

Ers i gyfyngiadau gael eu cyflwyno i atal Coronafeirws rhag lledaenu, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn addasu ei ffordd o weithio i sicrhau y gall trafodaeth a'r broses graffu barhau er nad oes modd cynnal y Cyfarfod Llawn yn y Siambr. Mae'r newidiadau wedi rhoi cyfle i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddiweddaru'r Aelodau ar y diweddaraf ynghylch yr ymateb i argyfwng Coronafeirws, ac i'r Aelodau ofyn cwestiynau i'r Llywodraeth

Roedd y cyfarfod heddiw ar 8 Ebrill yn ehangu’r defnydd o'r llwyfan fideo-gynadledda gan ganiatáu mwy o aelodau i gymryd rhan, alluogi pleidleisio i ddigwydd ac i’r sesiwn gael ei darlledu'n fyw ar Senedd.tv