Pleidlais Pobl Ifanc, Dyfodol Newyddiaduraeth Cymru, Gwella Cynrychiolaeth a Chydraddoldeb: Cyhoeddi Amserlen Senedd Cymru yn yr Eisteddfod rithiol gyntaf

Cyhoeddwyd 29/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/07/2020

Mae Senedd Cymru yn falch o gyhoeddi heddiw ei rhaglen o sgyrsiau dyddiol fel rhan o ŵyl rithiol gyntaf erioed yr Eisteddfod Genedlaethol, AmGen. Mewn partneriaeth â rhai o sefydliadau blaenllaw Cymru, mi fydd y sesiynau rhithwir yn denu lleisiau ynghyd i drafod a chnoi cil ar drothwy blwyddyn fawr i ddatganoli yng Nghymru, gydag Etholiadau Senedd 2021 ar y gorwel.  

Ymhlith y pynciau trafod bydd gwleidyddiaeth, gwella cynrychiolaeth a chydraddoldeb, datganoli, yr hinsawdd, newyddiaduraeth a’r dyfodol yn dilyn y pandemig. Bydd trafodaeth ar bwnc gwahanol bob dydd, am 2 o’r gloch y prynhawn o ddydd Llun hyd ddydd Sadwrn, 3-8 Awst. 
 
Mae'r sesiynau rhithiol yn agored ac am ddim, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. Maent yn cael eu llwyfannu ar Zoom yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae cyfle i'r gynulleidfa ofyn cwestiynau.  

Pleidlais 16

Un grŵp a fydd yn hawlio sylw eleni yw’r bobl ifanc 16 ac 17 oed a fydd yn cael pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd am y tro cyntaf erioed. Mewn sesiwn ar y cyd a Phrifysgol Aberystwyth ac yng nghwmni pobl ifanc a Llywydd Senedd Cymru, bydd y sgwrs ar brynhawn Iau 6 Awst ar sut y gall y grŵp newydd yma o bleidleiswyr gyfrannu at y broses ddemocrataidd, tu hwnt i daro pleidlais. 
 
Mi fydd y Llywydd, Elin Jones AS, yn rhan o’r drafodaeth, yng nghwmni Ifan Price, Aelod brwd Senedd Ieuenctid Cymru a Sion Evans, athro gwleidyddiaeth Ysgol Bro Morgannwg, gyda Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn arwain.
  
Meddai Elin Jones AS, Llywydd y Senedd;  “Roedd sicrhau’r hawl i bobl 16 ac 17 oed bleidleisio yn y Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) yn golygu mwy na gallu pleidleisio mewn etholiad. Ynghyd â dwyn perswâd ar ein pleidleiswyr ifanc i ddefnyddio’u hawl, mae angen sicrhau eu bod nhw’n cyfrannu at ddemocratiaeth mewn ffordd sy’n golygu mwy ac sy’n effeithio ar benderfyniadau y tu hwnt i’r cyfnod etholiadol. Os yw hynny am lwyddo, mae angen i bobl ifanc ein harwain, ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn rhan o nifer fawr o sgyrsiau yn eu cwmni yn ystod y misoedd sydd i ddod, wrth i ni baratoi ar gyfer blwyddyn bwysig i Senedd Cymru. 

“Fel arfer yr adeg hon o’r flwyddyn, rydym ni’n paratoi ar gyfer wythnos brysur ar y Maes yn llwyfannu trafodaethau ym Mhabell y Cymdeithasau. Er y bydd hiraeth am y Maes, rhaid canmol dygnwch a dyfeisgarwch trefnwyr gŵyl AmGen, ac rydym yn falch iawn fod Senedd Cymru yn rhan ohoni.”   

Cydraddoldeb, newyddiaduraeth yr economi, yr hinsawdd a’r celfyddydau

Yn y sgyrsiau dyddiol eraill, mi fydd newyddiaduraeth, cydraddoldeb, yr economi, yr hinsawdd a’r celfyddydau yn cael eu trafod, ag effeithiau COVID-19 ar Gymru yn bwnc na ellir ei osgoi. 
 
Mi fydd sesiwn ar y cyd a Race Council Cymru ar brynhawn Mercher, 5 Awst, yn edrych ar gydraddoldeb yng Nghymru a sut mae gwella’r gynrychiolaeth ym mhob agwedd o’n cymdeithas. Mi fydd y sgwrs yn rhannu profiadau personol am hiliaeth a chymdeithas, ac yn edrych gydag egni newydd ar y newid sydd ei angen.  

Yng nghwmni’r newyddiadurwr a’r darlledwr profiadol Betsan Powys cawn ddadansoddi newyddiaduraeth yng Nghymru a’r modd mae ein cyfryngau ni a’r wasg dros y ffin wedi adrodd ar ddatganoli yn ystod argyfwng COVID-19. Mae’r sesiwn, ar brynhawn Llun 3 Awst, wedi ei threfnu ar y cyd ag Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd a dau fyfyriwr ifanc fydd yn gofyn y cwestiynau: Llion Carbis, sydd newydd dderbyn Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Newyddiaduraeth a Chyfathrebu; a Lois Campbell, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru sy’n bwriadu astudio Newyddiaduraeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi.   

Yn cyflwyno’r sesiynau eraill, ar y cyd â Senedd Cymru, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru a fydd yn bwrw golwg ar effaith COVID-19 ar yr economi; trafodaeth am effaith y pandemig ar y celfyddydau gyda Phwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd; a byddwn yn gofyn cyfrifoldeb pwy yw troi’r llanw ar newid hinsawdd yng nghwmni Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. 

Agored ac am ddim ar Zoom

Mae sgyrsiau AmGen Senedd Cymru yn digwydd am 2.00 bob prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 3 – 8 Awst. Mae pob sesiwn yn cael eu cynnal ar Zoom, ac mi fydd y dolenni i'w dilyn yn cael eu gosod ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol y Senedd @SeneddCymru.   

Mae pob sgwrs yn agored ac am ddim, gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael ym mhob un. Mi fydd rhai sesiynau yn cynnig cyfle i fod yn rhan o’r drafodaeth, a chyfle i wylwyr ofyn cwestiwn. Mi fydd pob sgwrs ar gael i'w gwylio eto ar alw.  

Amserlen gŵyl AmGen Senedd Cymru

Dydd Llun, 3 Awst 2.00  

Sgwrs gyda Betsan Powys; Newyddiaduraeth, democratiaeth a COVID-19 

Ar y cyd ag Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd


Sgwrs gyda Betsan Powys, newyddiadurwr a sylwebydd gwleidyddol profiadol, a chyflwynydd cyfres Pawb a’i Farn S4C. Bydd y sesiwn yn troi sylw at newyddiaduraeth yng Nghymru yn ystod cyfnod COVID-19, yr ymwybyddiaeth o ddatganoli a democratiaeth. Yn llywio’r drafodaeth bydd Sian Lloyd, darlithydd yn y Brifysgol, ac yn holi’r cwestiynau mae dau berson ifanc sydd ar ddechrau dilyn gyrfa yn y maes: Llion Carbis, sydd newydd dderbyn Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Newyddiaduraeth a Chyfathrebu ac sy’n gweithio fel ymchwilydd ar brosiectau sy’n dadansoddi sut mae prif ddarlledwyr Prydain yn adrodd am ddatganoli yng nghyd-destun COVID-19 a’r cyfyngiadau cloi; a Lois Campbell, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru sy’n bwriadu astudio Newyddiaduraeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi.

Dydd Mawrth, 4 Awst 2.00 

COVID-19, yr economi a chyllideb Cymru 

Ar y cyd a Chanolfan Llywodraethiant Cymru  


Ers dechrau'r pandemig, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd wedi astudio'r effaith ar yr economi a chyllideb Cymru. Bydd Laura McAllister yn trafod effaith y pandemig gydag ymchwilwyr o raglen Dadansoddi Cyllid Cymru, Guto Ifan a Cian Tudur.  


Dydd Mercher, 5 Awst 2.00  

Hyrwyddo cydraddoldeb hil yng Nghymru  

Ar y cyd a Race Council Cymru 


Bydd y panel yn trafod cynrychiolaeth a hiliaeth drwy rannu profiadau personol o gydraddoldeb a chymdeithas yng Nghymru ac ystyried y camau ymlaen er mwyn gwella cynrychiolaeth. Yn cadeirio'r sgwrs mae Dr Marian Gwyn, Pennaeth Treftadaeth Race Council Cymru. 

Dydd Iau, 6 Awst 2.00  

Mwy na phleidlais: pobl ifanc a gwleidyddiaeth yng Nghymru 

Ar y cyd ag Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth 


Bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021. Amcan y drafodaeth yma fydd ystyried sut mae modd sicrhau fod pobl ifanc yn manteisio ar yr hawl newydd i gyfrannu i’r broses ddemocrataidd mewn ffordd a fydd yn golygu mwy na tharo pleidlais ar adeg etholiad yn unig.  
Yn cadeirio bydd Dr Elin Royles, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth gyda Llywydd y Senedd, Elin Jones AS; Ifan Price, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru a myfyriwr israddedig yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Siôn Evans, athro gwleidyddiaeth, Ysgol Bro Morgannwg. 


Dydd Gwener 7 Awst 2.00 

Effaith COVID-19 ar y celfyddydau yng Nghymru 

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd 


Ffilm a theledu, lleoliadau adloniant byw, darlledwyr sector cyhoeddus, perfformwyr a thimau cynhyrchu creadigol a dawnus; maent oll, a llawer iawn mwy, yn hanfodol er mwyn cynnal diwydiant creadigol sy’n ffynnu ac yn tyfu. Mewn adroddiad diweddar a fu’n edrych ar ergyd COVID-19, roedd y Pwyllgor yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn sefydlogi’r diwydiannau creadigol, sy’n bluen yn het Cymru. Cadeirydd y Pwyllgor, Helen Mary Jones AS, fydd yn arwain sgwrs i dwrio’n ddyfnach i'r heriau sy’n wynebu pob agwedd o’r sector a thrafod sut mae modd diogelu dyfodol y celfyddydau yng Nghymru. Ymhlith y bobl fydd ar y panel mae’r perfformiwr amryddawn Carys Eleri a Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach.   

Sadwrn 8 Awst 2.00 

Newid Hinsawdd, cyfrifoldeb pwy?  

Senedd Ieuenctid Cymru 


Beth yw’r ffordd orau o daclo ein dibyniaeth ar blastig un tro a lleihau sbwriel? A yw’r pandemig wedi newid ein hymddygiad a chynnig syniadau newydd i leihau ein heffaith ar yr hinsawdd? Ydyn ni’n dibynnu gormod ar ailgylchu yn lle canolbwyntio ar leihau defnydd yn y man cyntaf? Ai addysg yw’r ateb er mwyn achub ein hinsawdd? Mae llawer iawn i'w drafod, a llu o syniadau i'w rhannu, yn y sesiwn hon yng nghwmni Aelodau’r Senedd Ieuenctid yn rhan o’u hymchwiliad nhw i broblem Sbwriel a Gwastraff Plastig.