Pobl Cymru’n bwrw pleidlais yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 06/05/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pobl Cymru’n bwrw pleidlais yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol

5 Mai 2011

Mae pobl Cymru wedi dewis pwy y maent am eu cynrychioli am y pum mlynedd nesaf yn Senedd y Cynulliad Cenedlaethol ym mae Caerdydd.

Mae’r etholiad yn dilyn y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mawrth ar ragor o bwerau deddfu yn yr 20 maes datganoledig, sy’n cynnwys iechyd, addysg a’r amgylchedd. O ganlyniad, bydd y 60 Aelod Cynulliad newydd yn gallu deddfu ar gyfer Cymru heb ofyn am ganiatâd gan San Steffan.

“Mae pobl Cymru wedi pleidleisio a nawr rydym yn gwybod pwy fydd yn cynrychioli Cymru yn y Cynulliad hwn,” meddai Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd y Cynulliad.

“Bydd y 60 Aelod hyn nawr yn helpu i lunio dyfodol Cymru ar ran eu hetholwyr, a byddant yn gallu gwneud hynny mewn modd mwy effeithiol o ganlyniad i gymhwysedd deddfwriaethol ehangach y Cynulliad.

“Bydd y Cynulliad hwn yn anelu at ymgysylltu yn fwy effeithiol nag erioed o’r blaen gydag ystod o gymunedau ledled Cymru drwy waith ein pwyllgorau a’n system ddeisebau, gan ddefnyddio ystod o sianelau cyfathrebu.”

Mae canlyniad etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn golygu y bydd 30 Aelod Cynulliad Llafur, 14 o’r Ceidwadwyr, 11 o Blaid Cymru a 5 Aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

I gael rhagor o fanylion am yr Aelodau yn eich ardal chi, ewch yma.

Bydd y Cynulliad yn cyfarfod yn ystod yr wythnos yn dechrau 9 Mai (yr union ddyddiad i ddilyn) i ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yna, bydd gan Aelodau’r Cynulliad 28 diwrnod i ethol Prif Weinidog.

I gael rhagor o fanylion am yr hyn fydd yn digwydd nesaf, gweler y canllaw i fusnes cynnar sydd ynghlwm

Mae’r rheolau sy’n ymwneud â busnes y Cynulliad hefyd wedi cael eu diweddaru er mwyn cynyddu cyfranogiad yn y broses ddeddfu ac i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn y modd y mae’r Cynulliad yn gweithio. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:

  • Bydd Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn aelodau o’r Llywodraeth yn cael mwy o gyfle ac amser i gyflwyno materion i’w trafod;

  • Cynhelir balots cynharach ar gyfer dadleuon gan Aelodau nad ydynt yn aelodau o’r llywodraeth, er mwyn rhoi mwy o amser iddynt baratoi, e.e. drwy ymgynghori mwy â rhanddeiliaid;

  • Bydd haen ddewisol arall o waith craffu yn y broses ddeddfu i ganiatáu rhagor o welliannau ar ôl y Cyfnod 3 presennol;

  • Bydd gofyn i Aelodau gofrestru faint o amser y maent yn neilltuo i swyddi a dyletswyddau y maent yn derbyn tâl ar eu cyfer—heblaw am eu cyfrifoldebau yn y Cynulliad.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Rheolau Sefydlog, sydd ynghlwm