Pobl ifanc i gael dweud eu dweud wrth i bwyllgor edrych ar gyfraith newydd i amddiffyn hawliau’r plentyn.
28 Mehefin 2010
Gadewch i’ch lleisiau gael eu clywed – dyna’r neges i bobl ifanc gan Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol, wrth iddo ddechrau’r broses ymgynghori ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc.
Bydd y gyfraith newydd arfaethedig hon yn gorfodi Llywodraeth Cymru, am y tro cyntaf, i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) mewn unrhyw bolisi strategol sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc.
Mae Mark Isherwood AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn cyfarfod â disgyblion yn Ysgol Alun, yr Wyddgrug y prynhawn hwn (28 Mehefin – gweler y nodyn dyddiadur isod) mewn ymgais i gychwyn y broses ymgynghori gyda phobl ifanc.
O dan y ddeddfwriaeth, byddai gan Weinidogion Cymru hefyd ddyletswydd i baratoi Cynllun Plant a fyddai’n rhestru’r meysydd strategol hynny lle bydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gymwys.
“Mesur arfaethedig gan y Llywodraeth yw hwn, sy’n cydnabod bod yn rhaid i hawliau plant a phobl ifanc fod yn ganolog pan fydd y Llywodraeth yn creu polisi,” meddai Mark Isherwood AC, Cadeirydd y Pwyllgor.
“Mae’n ymwneud yn llwyr â rhoi hawliau pobl ifanc yng Nghymru ar frig yr agenda er mwyn sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau cyhoeddus.
“Dyna pam bod y pwyllgor hwn am roi pobl ifanc yng nghanol y broses o graffu ar y gyfraith newydd hon.
“Felly ein neges heddiw yw, dewch i ddweud eich dweud, wedi’r cyfan mae hon yn gyfraith newydd ar gyfer pobl ifanc felly pobl ifanc ddylai helpu i’w llunio.”
Yn ogystal â rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch:
- paratoi Cynllun Plant er mwyn canfod meysydd strategol lle bydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gymwys,
- ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adrodd ynglyn â chydymffurfio â’r ddyletswydd,
- hybu gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
- diwygio deddfwriaeth i roi effaith bellach neu effaith well i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn,
- ymgynghori ar gymhwysiad posibl y Mesur arfaethedig i bobl sydd wedi troi’n 18 oed ond heb droi’n 25oed.
Gan fod y Mesur arfaethedig yn effeithio ar blant a phobl ifanc, hoffai Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 glywed eu barn. Gallant gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy gwblhau holiadur ar-lein
Mae fersiwn o'r llythyr ymgynghori a’r holiadur ar gael ar ffurf Word. Cysylltwch â'r Swyddfa Ddeddfwriaeth (swyddfadeddfwriaeth@Cymru.gov.uk) am gopi.