Pobl Ifanc yn cyflwyno deiseb yn cefnogi talu cyflog byw i weithwyr yng Nghymru

Cyhoeddwyd 12/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pobl Ifanc yn cyflwyno deiseb yn cefnogi talu cyflog byw i weithwyr yng Nghymru  

12 Mehefin 2012

Bydd ymgyrchwyr ifanc sy’n gweithio gydag elusen Achub y Plant yn cyflwyno deiseb i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Senedd am 18.30, ddydd Mawrth 12 Mehefin.   

Mae’r grŵp yn honni nad yw’r isafswm cyflog yn ddigon i rai rhieni gael dau ben llinyn ynghyd, ac mae’n ymgyrchu am gyflog byw o £7.20 yr awr, o leiaf, i geisio mynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru.   

Mae’r ddeiseb yn datgan:

We call on the Welsh Government to stand by their promise to work towards a living wage for every worker in Wales and tell us when and how they will make it happen.

Ceir rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Deisebau