Pobl ifanc yn dod â’r Nadolig i’r Senedd cyn y Cyngerdd Carolau
06 Rhagfyr
Mae disgyblion ysgolion cynradd ledled Cymru wedi addurno coed Nadolig a fydd yn cael eu harddangos ar ystâd y Cynulliad yn ystod yr wyl.
Addurnodd disgyblion o Ysgol Tan y Marian, Bae Colwyn, goeden ar gyfer swyddfa’r Cynulliad ym Mae Colwyn, a rhoddodd disgyblion Ysgol Gynradd Ynys Hir yn Rhondda Cynon Taf ac Ysgol Gynradd Baden Powell, Caerdydd, help llaw i’r Llywydd, Rosemary Butler AC, addurno coeden y Senedd drwy wneud addurniadau neu helpu i’w hongian.
Dywedodd Mrs Butler, “Mae hud y Nadolig yn beth mawr i bobl ifanc ac felly mae’n briodol iawn bod plant o bob cwr o Gymru yn helpu’r Cynulliad i ddathlu’r wyl.”
“Bydd coed a gafodd eu haddurno gan ddisgyblion yn cael eu harddangos ar ystâd y Cynulliad er mwyn i’r cyhoedd eu mwynhau.
“Bydd y goeden yn y Senedd yn gefndir i gyngerdd carolau blynyddol y Cynulliad.”
Cynhelir Cyngerdd Carolau Nadolig y Cynulliad yn y Neuadd am hanner dydd ar 6 Rhagfyr.
Cyn i’r cyngerdd ddechrau, am 11.30 a.m., bydd disgyblion o Ysgol Gynradd Baden Powell yn helpu’r Llywydd i addurno’r goeden.