"Mae Cyngor Abertawe yn casglu bagiau du bob pythefnos, sy'n gyfyngedig i dri bag. Rydym yn deulu o chwech, ac mae hyn yn anodd i ni."
"Rwy'n hoffi symlrwydd system ailgylchu Cyngor Casnewydd."
"Mae angen i Gyngor Gwynedd ddarparu mwy o gasgliadau".
Dyma rhai o’r sylwadau a gasglwyd eisoes gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ei ymchwiliad i ailgylchu yng Nghymru.
Mae pobl ledled y wlad wedi bod yn llenwi arolygon ar-lein ac mewn sioeau haf fel Eisteddfod yr Urdd.
Mae pobl yn dal yn gallu dweud eu dweud am ailgylchu mewn nifer o ffyrdd:
Trydarwch gan sôn am @AmgylchSenedd a/neu defnyddiwch yr hashnod #ailgylchucymru. Beth am gynnwys llun o'ch deunydd ailgylchu?
Cwblhau arolwg:
- Fersiwn ar gyfer oedolion; neu
- Fersiwn i bobl o dan 18 mlwydd oed
Bydd bws y Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol yn ystod yr haf a gall pobl ddweud eu dweud yno hefyd. Bydd y Cynulliad yn bresennol yn y digwyddiadau canlynol:
Gwyl Pride Abertawe, 28 Mehefin
Gwyl Traeth Aberafan, 5 Gorffennaf
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, 8-13 Gorffennaf
Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, 21-24 Gorffennaf
Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Sir Gâr, Llanelli, Awst 1-9
Sioe Dinbych a Fflint, Dinbych, 21 Awst
"Dangosodd ein hymchwil cychwynnol fod gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru drefniadau gwahanol ar gyfer casglu gwastraff cartref. Mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddeall y rhesymau am hyn, ac i ddeall ai hyn yw'r ffordd fwyaf effeithlon o gasglu gwastraff cartref," dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
"Mae rhai awdurdodau lleol yn casglu plastig, metel, gwydr a phlastig ar wahân. Mae awdurdodau eraill yn casglu deunydd ailgylchu cymysg (a elwir yn 'gydgymysgu' weithiau). Bydd y Pwyllgor yn ystyried manteision ac anfanteision y gwahanol ddulliau hyn, a gofyn a ydynt yn effeithio ar gyfraddau ailgylchu.”
"Bydd y cyfraniadau a dderbyniwn yn ffurfio rhan o'r dystiolaeth y mae'r Pwyllgor yn ei chasglu. Os bydd pobl yn rhannu eu profiadau o sut mae ailgylchu yn gweithio mewn gwahanol ardaloedd, bydd yn helpu'r Pwyllgor i greu darlun o'r sefyllfa ledled Cymru."