Potensial enfawr o ran porthladdoedd Cymru, twristiaeth arfordirol ac ynni adnewyddadwy’r môr, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 12/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/02/2016

Ynys Môn / Anglesey - Menai Strait
Mae potensial enfawr i'w archwilio yn economi morol Cymru, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Daeth y Pwyllgor Menter a Busnes i'r casgliad bod angen dull gweithredu 'Llywodraeth gyfan' i fanteisio ar y potensial hwnnw'n llawn.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn credu bod angen cytuno ar bris taro ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy'r môr fel mater o frys er mwyn i Gymru arwain y byd o ran datblygu technoleg o'r fath.

Mae prosiect morlyn llanw Bae Abertawe yn un o bedwar safle lagŵn posibl a nodwyd yng Nghymru, gyda syniadau ynni adnewyddadwy eraill yn cael eu hymchwilio mewn mannau eraill gan gynnwys Ynys Ynni Môn.

Roedd y Pwyllgor yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo mwy na £77 miliwn o arian strwythurol yr UE i ddatblygu'r 'economi las', ond mynegwyd pryderon ynghylch diffyg ymgysylltu amlwg ar lefel yr UE i ymchwilio i gyfleoedd ariannu eraill.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn siomedig o glywed nad oedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gwneud fawr ddim i ymchwilio i gyfleoedd posibl ar gyfer partneriaeth ag Iwerddon, sydd eisoes yn datblygu ei heconomi morol drwy ei Chynllun Morol Integredig.

Dywedodd William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes:  "Mae'r dŵr a geir ar dair ochr i Gymru yn adnodd naturiol a allai fod yr un mor werthfawr i Gymru yn y dyfodol ag yr oedd y glo oddi tan ein cymoedd ganrifoedd yn ôl. Ond, nid drwy ddamwain y defnyddir y potensial hwnnw. Bydd angen i Lywodraeth Cymru feddwl yn strategol a dangos arweinyddiaeth, gan gydlynu camau gweithredu ar draws adrannau i gyflawni'r weledigaeth."

"Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod Cynllun Morol Cymru yn darparu fframwaith cynhwysfawr a chyffredinol ar gyfer datblygu adnoddau morol Cymru a'i chymunedau arfordirol yn gynaliadwy. Heb y weledigaeth honno, ynghyd ag arweinyddiaeth a chydweithredu, bydd Cymru ar ei cholled.

"Yn Iwerddon, gwelsom beth sy'n bosibl pan fydd adrannau'r Llywodraeth yn cydweithio ag un weledigaeth, ymdeimlad clir o gyfeiriad a thargedau uchelgeisiol - rydym am weld yr un egni ac uchelgais ar yr ochr hon i Fôr Iwerddon."

Roedd y Pwyllgor hefyd yn galw am sicrwydd ynglŷn â chost prosiectau ynni uchelgeisiol arfaethedig ar gyfer arfordir Cymru. Ychwanegodd Mr Graham:

"Mae ynni adnewyddadwy'r môr yn rhan sylweddol o'r sector morol am byth, ac rydym yn credu bod gan Gymru gyfle i arwain y byd o ran datblygu technoleg o'r fath.

"Byddem yn annog pennu pris taro ar gyfer technoleg cynhyrchu ynni o'r fath er mwyn rhoi sicrwydd i'r rhai sydd y tu ôl i brosiectau fel morlyn llanw Bae Abertawe ac Ynys Ynni Môn, fel y gallant symud ymlaen."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 21 o argymhellion manwl yn ei adroddiad, ac mae'n tynnu sylw at un prif argymhelliad:

"Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod Cynllun Morol Cymru yn darparu fframwaith cynhwysfawr a chyffredinol ar gyfer datblygu adnoddau morol Cymru a'i chymunedau arfordirol yn gynaliadwy. Dylai gynnwys amcanion a thargedau mesuradwy – gan gynnwys perfformiad economaidd – a dylid ei roi ar waith gan ddefnyddio dull 'Llywodraeth gyfan', wedi'i fodelu ar Gynllun Morol Integredig Iwerddon."

Adroddiad gan y Pwyllgor Menter a Busnes ar Botensial yr Economi Forwrol yng Nghymru (PDF, 1MB)

Rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Menter a Busnes