#POWiPL - Y Llywydd yn lansio cynllun datblygu Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 28/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

#POWiPL - Y Llywydd yn lansio cynllun datblygu Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus

28 Ionawr 2014

Ar 30 Ionawr, bydd y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn lansio Cynllun Datblygu #POWiPL.

Ei nod yw annog mwy o fenywod i wneud cais am benodiadau cyhoeddus, a rolau eraill mewn bywyd cyhoeddus, drwy ddarparu cyfleoedd mentora, cysgodi a hyfforddi.

Bydd y Cynllun yn cael ei redeg mewn partneriaeth a'r elusen cyfle cyfartal Chwarae Teg ac Ysgol Fusnes Caerdydd, a enillodd y tendr ar y cyd i redeg y prosiect.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Mae yna gannoedd o fenywod ledled Cymru a fyddai'n wych fel llywodraethwyr ysgol, ynadon, neu aelodau gwerthfawr o gyrff cyhoeddus eraill.

"Mae llawer ohonyn nhw'n edrych ar y cyrff cyhoeddus hyn ac yn diystyru gwneud cais pan fyddan nhw'n gweld mai dynion sy'n eu rheoli.

"Rwyf wedi ymrwymo i newid hyn drwy fy ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus ac rwyf eisoes wedi lansio'r Porthol Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, sy'n rhoi gwybodaeth am sut i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, y swyddi gwag diweddaraf a chyfleoedd hyfforddi.

"Y cynllun datblygu yw cam nesaf y prosiect #POWiPL ac rwy'n credu y bydd o ddefnydd mawr o ran mynd i'r afael â'r mater hwn.

“Yn aml, bydd mentor yn rhoi ysbrydoliaeth i fenywod i gymryd y cam nesaf.  Nid oes rhaid i'r mentoriaid fod yn fenywod.  Rwyf am weld dynion a menywod sydd eisoes yn cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yn dod yn fentoriaid ac yn helpu i gyflwyno'r rhaglen arloesol hon.

Bydd y Llywydd yn cyhoeddi'r bartneriaeth gyda Chwarae Teg ac Ysgol Fusnes Caerdydd ac yn rhoi trosolwg o'r cynllun datblygu mewn digwyddiad yn y Senedd ar 30 Ionawr.

Bydd hefyd areithiau gan ddwy fenyw flaenllaw mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru - Sophie Howe, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, a Liz Musa, a safodd fel ymgeisydd yn etholiad y Cynulliad yn 2011 ar ôl iddi gymryd rhan yn Operation Black Vote.

Byddan nhw'n siarad am bwysigrwydd modelau rôl a rhwydweithiau cymorth er mwyn sicrhau bod y sgiliau cywir yn cael eu meithrin a'u datblygu.

Dywedodd Joy Kent, Prif Weithredwr Chwarae Teg: "Rydym ni yn Chwarae Teg yn falch iawn i fod yn gweithio gyda'r Llywydd ac Ysgol Fusnes Caerdydd i ddarparu'r cynllun mentora arloesol hwn, sydd mawr ei angen.

"Rydym yn awyddus i gefnogi uchelgeisiau'r menywod y gwyddom sydd wedi cyrraedd pwynt yn eu gyrfaoedd lle maent wedi datblygu sgiliau a gwybodaeth gwych y gellid eu defnyddio'n effeithiol mewn bywyd cyheoddus.

“Bydd hyn yn rhoi boddhad personol i'r menywod sy'n cymryd rhan a bydd yn cynnig manteision sylweddol i gymdeithas yng Nghymru wrth i ni weld cyrff sy'n gwneud penderfyniadau yn elwa o ystod o brofiadau a safbwyntiau sy'n ehangach ac yn fwy cynrychioliadol."

Dylai unrhyw un sydd am gymryd rhan yn y cynllun, fel mentor neu fentorai, gysylltu ag Emma Tamplin yn Chwarae Teg: emma.tamplin@chwaraeteg.com.