Prosesau craffu cadarn – Llywydd y Cynulliad yn agor cynhadledd yn ymwneud â rôl ac atebolrwydd Comisiynwyr Cymru

Cyhoeddwyd 20/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Prosesau craffu cadarn – Llywydd y Cynulliad yn agor cynhadledd yn ymwneud â rôl ac atebolrwydd Comisiynwyr Cymru

20 Mawrth 2014

Bydd Llywydd y Cynulliad, y Fonesig Rosemary Butler AC, yn agor cynhadledd yn y Pierhead ar 20 Mawrth yn ymwneud â rôl Comisiynwyr ac Ombwdsmyn a seilwaith Llywodraeth Cymru.

Yn ei haraith i groesawu’r cynadleddwyr, bydd y Llywydd yn amlinellu’r rôl gadarn y mae’r Cynulliad yn ei chwarae wrth benodi’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.

Yn ei haraith, bydd y Fonesig Rosemary yn dweud: "Y Cynulliad sy’n penodi i swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a chaiff ein pwyllgorau eu cynrychioli mewn proses recriwtio drwyadl, gyda’r Cynulliad cyfan yn penodi’r ymgeisydd llwyddiannus yn ffurfiol.

"Felly mae’r llinell atebolrwydd yn glir iawn.

"Yn y gynhadledd heddiw, byddwch yn ystyried atebolrwydd, ac mae hynny’n bwysig er mwyn sicrhau i drethdalwyr bod gennym system dryloyw.

"Mae sylwadau wedi dod i’m llaw innau ynghylch atebolrwydd a thryloywder Comisiynydd Pobl Hyn Cymru, y Comisiynydd Plant a Chomisiynydd y Gymraeg.

"Mae’r rhain oll yn atebol i Lywodraeth Cymru – ac maent yn craffu ar Lywodraeth Cymru.

"Mae rhai o’r farn y dylai’r Comisiynwyr fod yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol, a chael eu penodi gan y Cynulliad hefyd. Bydd yn ddiddorol clywed a fydd y gynhadledd hon yn dod i unrhyw gasgliadau ynghylch y system bresennol."

Trefnwyd y gynhadledd hon gan Brifysgol Aberystwyth a bydd yn cynnwys cyfraniadau gan yr Athro John Williams ac Ann Sherlock o Brifysgol Aberystwyth, Peter Tyndall, Ombwdsmon a Chomisiynydd Gwybodaeth, Iwerddon, ac Eleri Thomas, Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru.