Pryderon difrifol wedi’u mynegi ynghylch cynllun arloesol i leihau llwyth gwaith athrawon
Mae Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch effaith y Cytundeb Llwyth Gwaith Athrawon (TWA).
Cyflwynwyd y cytundeb yn 2003 i fynd i’r afael â’r pwysau annerbyniol sydd ar athrawon, mewn ymgais i godi safonau yn ein hysgolion.
Er y bu gwelliant o ran ffocws, canfu’r pwyllgor nad oedd hyn, o anghenraid, yn golygu gwelliant yn yr oriau a weithiwyd.
“Rydym yn pryderu ei bod yn ymddangos nad oedd llawer o dystiolaeth, os o gwbl, bod gweithredu’r cytundeb llwyth gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar godi safonau,’’ meddai Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor.
“Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn comisiynu gwaith ymchwil annibynnol i weld a yw’r Cytundeb Llwyth Gwaith yn cyflawni’i amcanion o godi safonau ac a oes angen rhagor o ymyrraeth ariannol, neu fel arall.”
Dyma brif ganfyddiadau’r Pwyllgor
Pryderon ynghylch a oes digon o staff cyflenwi ar gael er mwyn caniatáu i athrawon gael mwy o sesiynau paratoi (Cynllunio Paratoi ac Asesu)
Pryderon ynghylch diffyg lle mewn ystafelloedd dosbarth a’r cymorth a ddarperir ar gyfer sesiynau CPA.
Bod llwyth gwaith penaethiaid yn cynyddu o ganlyniad i ddarparu staff cyflenwi er mwyn caniatáu CPA.
Pryderon bod cynorthwywyr dosbarth sy’n gwneud gwaith cyflenwi’n cael eu trin fel dinasyddion eilradd o ran tâl a mynediad at hyfforddiant.
Nid yw cynghorau lleol yn cysylltu ag ysgolion i sicrhau bod y cynllun yn cael ei weithredu.
Ni roddir digon o arweiniad i lywodraethwyr ysgolion.
Mae’r Pwyllgor felly yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i:
Gomisiynu gwaith ymchwil annibynnol i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar effaith gweithredu’r Cytundeb Llwyth Gwaith Athrawon ar godi safonau.
Gwerthuso a oes angen ymyrraeth ariannol, neu fel arall.
Cynnal ymchwiliad brys i drefniadau staff cyflenwi cyfredol.
Cyflwyno mesurau i sicrhau tâl ac amodau cyson i gynorthwywyr dosbarth.
Cynnal arolwg i ganfod y lefel gyfredol o gymorth a ddarperir gan “reolwyr newid” mewn Awdurdodau Lleol, a lle mae hynny’n annigonol, ariannu rheolwr newid penodol i gynorthwyo penaethiaid.
Nodiadau i’r Golygyddion:
Bydd Gareth Jones, Cadeirydd y Pwyllgor ar gael am rhwng 1600 a 1630 heddiw (ddydd Mercher) ar gyfer cyfweliadau
Cyflwynwyd y Cytundeb Llwyth Gwaith Athrawon mewn tri chyfnod blynyddol o fis Medi 2003.
Cododd y Cytundeb Llwyth Gwaith Athrawon o’r Grwp Monitro Cytundeb y Gweithlu y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhan ohono.