Pwyllgor Addysg i drafod adroddiad blynyddol Estyn

Cyhoeddwyd 14/02/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Addysg i drafod adroddiad blynyddol Estyn

Bydd Pwyllgor Addysg y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried adroddiad blynyddol arolygu ysgolion, Estyn, yn ei gyfarfod nesaf.  Gellir gweld yr adroddiad yma Yn yr un cyfarfod, bydd Aelodau’n clywed y sefyllfa ddiweddaraf o ran y cynllun gwella dysgu seiliedig ar waith ac yn trafod adroddiad y Pwyllgor Archwilio ar Ddysgu Seiliedig ar Waith. Cynhelir y cyfarfod am 9am yn Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd, Bae Caerdydd ddydd Mercher 14 Chwefror. Manylion llawn ac agenda