Pwyllgor Archwilio’n canfod bod arian cyhoeddus wedi ei roi mewn perygl wrth ariannu’r prosiectau LG

Cyhoeddwyd 07/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Archwilio’n canfod bod arian cyhoeddus wedi ei roi mewn perygl wrth ariannu’r prosiectau LG

Mae adroddiad Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad wedi canfod bod arian cyhoeddus wedi ei roi mewn perygl gan weithredoedd awdurdodau, yn cynnwys y Swyddfa Gymreig a’r WDA gyda phrosiectau LG yng Nghasnewydd.   Dywed adroddiad y Pwyllgor, Diogelu Arian Cyhoeddus ym Mhrosiectau LG Casnewydd, a gyhoeddwyd heddiw, bod Awdurdodau Cymru – y Swyddfa Gymreig (Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ddiweddarach), y WDA, Cyngor Casnewydd  a Chyngor Hyfforddi a Menter Gwent – wedi gwneud yn dda i adennill cymaint o’r buddsoddi cyhoeddus er gwaethaf gwendidau sylweddol yn y pecyn ariannu a negodwyd yn wreiddiol gyda chwmnïau LG.   Pan gawsant eu cyhoeddi gan grwp LG o Gorea ym mis Gorffennaf 1996 y bwriad oedd mai prosiectau LG - sef safle gweithgynhyrchu electroneg yn  Imperial Park, Casnewydd - fyddai’r buddsoddiad mwyaf o’r tu allan yng Nghymru a disgwyliwyd iddynt greu dros 6,000 o swyddi. Er mwyn denu’r buddsoddiad i Gymru, cynigiodd yr Awdurdodau Cymreig becyn cymorth a oedd yn werth £247 miliwn - y dyfarniad mwyaf a wnaed erioed i ddenu buddsoddiad o’r tu allan i’r DU. Talwyd cyfanswm o £131 miliwn i gwmnïau LG yn y diwedd,  ond ni chwblhawyd y prosiectau byth fel y cynlluniwyd, a chrëwyd llai na hanner y swyddi y disgwyliwyd.  Llwyddodd yr Awdurdodau Cymreig i adennill cyfanswm o £71 miliwn ar ffurf arian ac eiddo. Dywed yr adroddiad bod gweithredoedd yr awdurdodau yn ystod cyfnod gwerthuso’r prosiect wedi peri risg diangen i arian cyhoeddus: “Roedd y pecyn cymorth wedi’i flaenlwytho – hynny yw roedd mwy yn daladwy yng nghamau cynnar y prosiect, fel cyfran o fuddsoddiad y cwmnïau, nag yn y camau diweddarach.  Yn aml fe fydd yna resymau masnachol da dros flaenlwytho.  Er hynny, roedd hyn yn creu risgiau difrifol yn achos LG ac roedd sawl agwedd bwysig ar y darpariaethau ar gyfer adennill cymorth yn annigonol gan gyfyngu ar allu’r Awdurdodau i’w adennill pe na bai’r prosiectau yn cael eu gwireddu yn unol â’r cynllun. Chafodd risgiau pecyn a oedd wedi’i flaenlwytho mo’u hasesu na’u rheoli’n briodol.” Mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, gan gynnwys asesu  a rheoli risg yn gywir.  Mae’r adroddiad hefyd yn argymell y dylai cytundebau cyfreithiol ar gyfer prosiectau mawr gynnwys cyfres o gerrig milltir interim i asesu’r cynnydd yn glir yn eu herbyn, yn enwedig os caiff y prosiect ei gyflawni mewn rhannau pendant.   Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Gwelsom fod yr Awdurdodau Cymreig wedi gwneud yn dda iawn i adennill cymaint o arian ag y gallent, ond roedd camgymeriadau gyda gwerthusiad y prosiect a oedd yn golygu risgiau diangen.  Mae hyn yn amlwg yn annerbyniol a rhaid dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.” Adroddiad Y Pwyllgor Archwilio ‘Diogelu Arian Cyhoeddus ym Mhrosiectau LG, Casnewydd’