Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad i edrych ar flocio gwelyau

Cyhoeddwyd 19/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad i edrych ar flocio gwelyau

Bydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad yn edrych ar broblem oedi wrth drosglwyddo gofal, neu flocio gwelyau.

Mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn cyfeirio at achosion pan fo cleifion yn barod i drosglwyddo i’r cam gofal nesaf, ond eu bod yn cael eu hatal rhag gwneud hynny am un neu fwy o resymau. Canfu adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru fod yr oedi hwn yn effeithio ar pa mor annibynnol all pobl sy’n agored i niwed fod, ac effeithio’n andwyol ar ddarpariaeth gwasanaethau’n ehangach yn y GIG. Dywed yr adroddiad fod angen i Lywodraeth y Cynulliad a chyrff iechyd a gofal cymdeithasol fabwysiadu systemau mwy aeddfed ac effeithiol, a mabwysiadu’n fwy cyson arferion gweithio da, a gweithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol

Mae’r Pwyllgor Archwilio’n awr yn cynnal ei ymchwiliad i’r broblem.

Bydd y Pwyllgor yn derbyn tystiolaeth gan nifer o bobl, yn cynnwys Ann Lloyd, pennaeth y GIG yng Nghymru, a Phrif Weithredwyr Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg, Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro a phrif weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Gall oedi’n ormodol yn yr ysbyty olygu fod pobl sy’n agored i niwed â siawns o golli eu gallu i symud, eu hyder a’u hannibyniaeth. Mae i broblem blocio gwelyau hefyd oblygiadau ehangach i gyflwyno gwasanaethau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n bwysig felly fod y Pwyllgor yn edrych yn ofalus ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru a gwneud argymhellion a fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion sy’n agored i niwed.”

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal am 1.30pm ddydd Iau, Tachwedd 22 yn Ystafell Bwyllgora 3, y Senedd, Bae Caerdydd.

Manylion llawn ac agenda